Newyddion S4C

Cynllun ar gyfer etholaeth newydd sy'n ymestyn o Ben Llŷn i'r ffin â Lloegr

04/09/2024

Cynllun ar gyfer etholaeth newydd sy'n ymestyn o Ben Llŷn i'r ffin â Lloegr

"Mae'n ardal reit wledig gydag amaeth a thwristiaeth.

"Lle braf, distaw i fyw.

"Mae cymunedau lle mae lot mwy o bobl yn nabod ei gilydd.

"Chi'n gallu mynd am dro a pheidio â dod ar draws neb."

Mae pen draw Llyn, yn llythrennol, ym mhen pellaf gogledd Cymru.

Rhwng y clwstwr o gymunedau gwledig a threfi lan môr mae bywyd yma yn gallu teimlo'n bell o bob dim ac yn wahanol i ardaloedd eraill yr etholaeth newydd posib yma.

"Mae'r teip o bobl yn wahanol.

"Ni 'di arfer byw allan yn y wlad yma.

"Yr union bobl sy'n byw allan yn y wlad fel hyn yn wahanol i'r rheiny sy'n byw mewn tref fawr."

"Er bod ni'n bell o bobman, mae llawer yn dod yma ar eu gwyliau.

"Oes, mae llawer o heriau i ni mewn llefydd fel hyn ond mae'n le braf ofnadwy i fyw."

Y cwestiwn ydy mewn rhan o Gymru sy'n teimlo'n bell o bob dim pa mor debyg ydy'r heriau yma i rai yn y cymunedau ben arall yr etholaeth, 100 milltir i ffwrdd.

Dewch i ni weld.

Ar hyd yr arfordir, mae etholaeth Dwyfor Meirionydd eisoes yn fawr ond gan ychwanegu Maldwyn Glyndŵr, byddai dros 1,900 milltir sgwar.

Y mwyaf o bell ffordd ac yn cynnwys atyniadau mwya poblogaidd Cymru.

Bellach yng nghalon yr etholaeth newydd yma oes 'na groeso i'r map gwleidyddol newydd?

"Mae'n ddigon mawr fel mae e ac yn ddaearyddol, mae'n eang tu hwnt.

"Mae'r gofyn ar y bobl fydd yn ein cynrychioli ni.

"Mae pob pegwn yn wahanol a does dim plesio pawb i gael.

"Mae'n ddigon fawr fel mae e, a dyw mynd yn fwy ddim yn mynd i helpu."

"Mae 'di bod yn brysurach nag arfer er gwaetha'r tywydd.

"Dyw e ddim 'di bod yn haf brill i'r plant na neb arall."

Dod dros brysurdeb ymwelwyr yr haf mae'r maes carafanau yma.

Oes 'na awydd yma am fwy o wleidyddion?

"Dyw e'm yn beth drwg a rhaid bod e'n beth da.

"Pwysig gweld mwy o weinidogion mewn gwahanol ardaloedd yn supportio ni a gweld sut mae pobl yn byw be sydd angen o ran twristiaeth a bywyd bob dydd."

Ar fap fel hyn, bydd mwy nag un gwleidydd yn cynrychioli'r ardal ac eto, mae dal yn ardal mor fawr.

"Ydy, mae'n ardal enfawr i rywun gynrychioli yn enwedig yn y cefn gwlad ar y ffyrdd cul.

"Bydd o'n cymryd tair i bedair awr i fynd o un pen i'r llall."

Gan nesau at y ffin, mae'r tirwedd yn newid ac er yn wledig, mae cymunedau yn wahanol hefyd.

"Mae Llanfyllin yn dref go fawr.

"Ni'n ddwyieithog gyda chymuned Cymraeg cryf fan hyn ond yn agos iawn at ffin Lloegr."

Bron i 100 milltir o'r man cychwyn, gall hwn fod yn her i wleidyddion.

"Mae'n rhoi gymaint o bwysau ar y cynrychiolwyr a'r gwleidyddion.

"Mae'n swydd anodd so gyda hynny yn rhannu'r baich o beth sydd rhaid gwneud o ddydd i ddydd a wir deall pobl yr ardal leol.

"Mae pob ardal leol o fewn yr etholaeth enfawr yma'n go wahanol."

A'r daith ar ben, mae'n un brydferth.

Ond mae'n ardal sy'n ymestyn o un pen o Gymru i'r llall...

..y cwestiwn o hyd, yw hi'n un addas i gymunedau'r fro?

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.