Dyn 64 oed wedi marw ar ôl i gar wyro o ffordd ym Mhenrhyn Gŵyr
04/09/2024
Mae dyn 64 oed wedi marw ôl i gar wyro o ffordd ym Mhenrhyn Gŵyr.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Ffordd Pennard, Kittle yn ne ddwyrain Penrhyn Gŵyr am 12:30 ddydd Mawrth.
Dywedodd y llu bod car wedi gadael y ffordd a bod dyn wedi marw yn y fan a'r lle.
Roedd y ffordd ar gau am rai oriau tra bod y gwasanaethau brys yn ymateb i'r digwyddiad.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2400295092.
Llun: Google