Newyddion S4C

Cynllun am dai fforddiadwy ym Mhen Llŷn yn 'codi pryder am y Gymraeg'

04/09/2024
Botwnnog

Bydd cynllunwyr yn penderfynu ar gynllun tai "sylweddol" mewn pentref ym Mhen Llŷn sydd wedi sbarduno dadl dros y Gymraeg ac ail dai. 

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais i adeiladu 18 o dai fforddiadwy ar dir ger Cae Capel ym mhentref Botwnnog. 

Mae'r cais wedi derbyn gwrthwynebiad cryf yn lleol yn ôl yr adroddiad cynllunio. 

Mae Cyngor Cymunedol Botwnnog yn dweud nad oes "unrhyw angen lleol" ar gyfer y tai, gan ddweud mai dim ond pedwar enw oedd ar y rhestr tai. 

Ychwanegodd y cyngor eu bod nhw'n pryderu y byddai'r tai yn "or-ddatblygiad" ac y byddant yn mynd i siaradwyr di-Gymraeg.

Yn ôl y cyngor, byddai'r datblygiad hefyd yn cael effaith ar ysgolion a gwasanaethau iechyd lleol. 

"Rydym ni'n gwybod fod yna alw mawr yn yr ardal am ail dai a llety tymor-byr ac mae grym y fasnach dwristiaeth wedi arwain at nifer o siaradwyr di-Gymraeg yn dod i'r ardal am ddegawdau," medden nhw.

"Mae hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng nghymunedau cyfagos Llangïan / Abersoch."

Wrth ymateb mewn llythyr, dywedodd yr ymgeiswyr ar gyfer y cais cynllunio fod disgwyl i'r "rhai sy'n byw yn y tai fod yn bobl leol, ac felly bydd gan boblogaeth y datblygiad yr un nodweddion iaith Gymraeg â’r boblogaeth leol y byddant yn dod ohoni.

"Felly ni fydd unrhyw effaith ar yr iaith, neu yn gymedrol iawn ar y mwyaf, ac yn sicr ni fydd yn ddigonol i gael unrhyw effaith niweidiol."

Mae disgwyl i'r cais gael ei drafod yng nghyfarfod cynllunio'r cyngor ar 9 Medi.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.