Paris '24: Medal efydd i Georgia Wilson a'i cheffyl Sakura
Mae Georgia Wilson a'i cheffyl Sakura wedi ennill medal efydd yng Ngemau Paralympaidd Paris.
Enillodd y Gymraes o Abergele fedal yn y gystadleuaeth dressage Gradd II yn y Château de Versailles ddydd Llun.
Mae ennill y fedal yn golygu ei bod hi wedi cymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth Gradd II dull rhydd a fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn.
Dyma'r drydedd fedal i'r ddynes 28 oed o Abergele, Sir Conwy ennill yn y Gemau Paralympaidd wedi iddi gasglu dwy fedal efydd yn Tokyo yn 2021.
Cafodd Georgia ddiagnosis o barlys yr ymennydd pan yn ddwy oed.
Dechreuodd farchogaeth yr un flwyddyn ar ôl i'w doctor ddweud wrth ei mam y byddai hynny'n helpu gyda chydbwysedd Georgia.
Fe wnaeth ei diddordeb mewn dressage ddechrau ychydig flynyddoedd wedi hynny ac roedd ei chystadleuaeth ryngwladol gyntaf yn 2019.
Mae hi wedi ennill saith medal ryngwladol yn y gamp ers hynny.
Llun: Wochit