Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Y Seintiau Newydd i herio Aberystwyth

Sgorio 03/09/2024
Dan Williams Y Seintiau Newydd

Mae’r Seintiau Newydd wedi creu hanes eleni drwy gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed.

Bydd y clwb o Groesoswallt yn herio Fiorentina, Djurgarden, Astana, Shamrock Rovers, Panathinaikos a Celje yng Nghyngres UEFA y tymor hwn.

Ond tra bo’r Seintiau wedi bod yn brysur gyda’u gemau rhagbrofol yn Ewrop, mae eu gemau cynghrair wedi cael eu gohirio. Mae’r pencampwyr felly mewn sefyllfa anghyfarwydd i lawr yn y 10fed safle gyda phedair gêm wrth gefn.

Wedi’r llwyddiant diweddar dyw hi’n ddim syndod bod clybiau eraill wedi llygadu chwaraewyr gorau’r Seintiau. Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd bod prif sgoriwr y tymor diwethaf, Brad Young wedi arwyddo i Al-Orobah yn Saudi Arabia.

Er chwarae tair gêm yn fwy na’r Seintiau, dim ond un pwynt yn ychwanegol sydd gan Aberystwyth gan i’r Gwyrdd a’r Duon ennill dim ond un o’u pedair gêm gynghrair hyd yma.

Mae’r Seintiau wedi ennill 27 gêm gynghrair yn olynol, a heb golli yn y gynghrair ers Chwefror 2023 (Met 3-2 YSN).

Fe lwyddodd Aberystwyth i guro’r Seintiau ar Goedlan y Parc ‘nôl ym mis Tachwedd 2021 (Aber 1-0 YSN), ond dyw’r clwb o Geredigion heb ennill oddi cartref yn erbyn y Seintiau ers 30 o flynyddoedd (Tachwedd 1993).

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅

Aberystwyth: ͏❌➖✅❌

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.