Newyddion S4C

Cyffro wrth i Rali Ceredigion gael ei chynnal yn Aberystwyth

02/09/2024

Cyffro wrth i Rali Ceredigion gael ei chynnal yn Aberystwyth

Oriau hir ac wythnosau o baratoi i gael y ceir o'r garej i fan cychwyn Rali Ceredigion. Un ddaeth yn drydydd y llynedd yn benderfynol o wneud ei farc eleni er bod y gystadleuaeth wedi newid. 

"Mae'r rali nawr yn rhan o'r European Rally Championships. Blwyddyn diwethaf, roedd e yn y British Rally Championships. Mae'r bois yn dod o Ewrop i gystadlu fan hyn. 

"Bois lleol versus yr European boys." 

Mae mwy 'na 140 o gystadleuwyr o 14 o wledydd yn cymryd rhan. Rhai am y tro cyntaf yn Rali Ceredigion. 

“Sa i 'di neud rhywbeth fel hyn erioed o'r blaen. One-off fydd hwn!" 

Mae'n cydnabod bod y gamp yn gostus. 

"Mae entry yn £1,300 a'r teiars yn £200 yr un a llond tanc o betrol yn £100. Ni'n wneud e am yr enjoyment ac yn lwcus iawn o'r sponsors.” 

Mae'r cyffro wedi cychwyn yma'n Aberystwyth. Am y tro cyntaf, mae un o gymalau Pencampwriaeth Ralio Ewrop yn cael ei gynnal yn ystod Rali Ceredigion. A'r economi ar ei hennill yn ôl rhai. 

"Mae'r clwb rygbi a llond lle o motorhomes. Y gwestai lleol, ystafelloedd y brifysgol. Miloedd yn dod i mewn i'r dref a'r ardal." 

Mae'r digwyddiad yn cael cefnogaeth ariannol gan Gyngor Sir Ceredigion a chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. 

Ydych chi'n gyfforddus gyda gwario cannoedd ar filoedd amser chi'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd? Toriadau i wasanaethau o fewn y sir. 

"Bydd pobl wastad yn gwrthwynebu be mae'r cyngor sir yn neud. Y teimlad yw bod ni'n buddsoddi yn Ceredigion i greu'r economi hyfyw sydd mor bwysig i gynnal ein gwasanaethau."

Digwyddiad unwaith y flwyddyn yw Rali Ceredigion. Mae pobl yn byw yn y sir bob dydd o'r flwyddyn. "

Ydy, un penwythnos y flwyddyn ond gwaddol rhywbeth fel hyn yw bod yr economi'n tyfu. Mae ceisio gwarchod yr amgylchedd hefyd yn flaenoriaeth. 

"Mae'n bwysig bod ni'n dod a fuels newydd mewn. Mae carbon positive source gyda ni eleni. Am y tro cyntaf, ni'n plannu coed yn Abergavenny. Mae coedwigoedd yn Abergavenny. Ni'n trio displacio'r CO2. 

"Tridiau o wylio o floeddio a rasio." 

Mae'n argoeli i fod yn benwythnos a hanner. 

"I always love coming here. It's the closest place that feels like a home away from home. Especially in Wales with the countryside."  

A balchder amlwg yma wrth weld statws y rali, fel y ceir yn symud i'r ger nesa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.