Newyddion S4C

Abertawe: Menyw yn y llys wedi ei chyhuddo o lofruddio bachgen chwech oed

02/09/2024

Abertawe: Menyw yn y llys wedi ei chyhuddo o lofruddio bachgen chwech oed

Mae menyw wedi ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe wedi ei chyhuddo o lofruddio bachgen bach yn y ddinas.

Bu farw Alexander Zurawski mewn eiddo yng Nghlôs Cwm Du yn ardal Gendros nos Iau 29 Awst.

Fe ymddangosodd Karolina Zurawska, 41 oed, o flaen Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun.

Daw wedi iddi gael ei chyhuddo o lofruddiaeth ddydd Sul, yn ogystal ag un cyfrif o geisio llofruddio, yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â dyn 67 oed ar yr un diwrnod.

Cadarnhaodd ei henw, ei chyfeiriad a'i dyddiad geni ac fe gafodd ei chadw yn y ddalfa.

Bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.

Nid yw’r heddlu yn edrych am unrhyw berson arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

‘Bachgen hynod annwyl a phoblogaidd’

Mae teulu Alexander a phennaeth Ysgol Gynradd Whitestone wedi rhoi teyrnged iddo.

Dywedodd ei deulu mewn teyrnged: “Roedd Alexander yn blentyn caredig iawn. Roedd wrth ei fodd yn chwarae gyda’i chwaer fach ac yn chwarae gyda’i gi, Daisy.

“Roedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg.

“Roedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau.

“Roedd Alexander bob amser yn barod i helpu, bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau.

“Roedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg a byddai’n aml yn cywiro ei rieni gyda’u Saesneg os oedden nhw’n cael geiriau’n anghywir.

“Roedd yn anhygoel.”

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y teulu wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon. Fe wnaeth y teulu hefyd fynegi eu diolch i’r gwasanaethau brys. 

Dywedodd Bethan Peterson, Pennaeth Ysgol Gynradd Whitestone: “Rydym wedi ein syfrdanu o glywed am farwolaeth drasig Alexander.

“Roedd Alexander yn fachgen bach hoffus, penderfynol ac roedd ei agwedd bositif a’i ddycnwch yn sicrhau ei fod yn llwyddo ym mhopeth yr oedd yn ei wneud.

“Roedd yn fachgen hynod annwyl a phoblogaidd ymhlith ei gyfoedion, staff a phawb oedd yn ei adnabod. Bydd colled fawr ar ei ôl."

‘Sioc’

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Chris Truscott, rheolwr rhanbarthol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ddydd Sul bod y digwyddiad wedi bod yn "sioc aruthrol i’r gymuned leol."

“Mae’r gymuned leol wedi bod yn rhagorol wrth ein cefnogi gyda'n hymchwiliad, a hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu hamynedd yn ystod cyfnod trawmatig.

“Bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal leol dros y dyddiau nesaf er mwyn rhoi cyngor a sicrwydd.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Alexander ar yr amser anodd hwn.”

Llun: Alexander Zurawski (Heddlu De Cymru)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.