Rhybudd melyn am stormydd i Gymru gyfan ddydd Llun
02/09/2024
Mae rhybudd melyn am stormydd mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Llun.
Mae’r rhybudd mewn grym ar gyfer y diwrnod cyfan gan bara tan 23.59 nos Lun.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd gallai'r tywydd stormus arwain at oedi i deithiau yn ogystal ag achosi llifogydd mewn mannau.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gallai rhai ardaloedd golli cyflenwadau pŵer am gyfnod.
Gallai hyd at 40mm o law syrthio o fewn awr, gyda rhai ardaloedd o bosib yn gweld tua 75mm o law.
Fe allai mellt daro’n aml mewn rhai ardaloedd yn ystod y dydd, gyda phosibilrwydd o genllysg hefyd.
Fe fydd y rhybudd melyn yn effeithio ar bob sir yng Nghymru.