Newyddion S4C

Gemau Paralympaidd: Cymro wnaeth oroesi damwain yn dod yn seren rhwyfo

30/08/2024

Gemau Paralympaidd: Cymro wnaeth oroesi damwain yn dod yn seren rhwyfo

"Ers 2016 pan gafodd e'r ddamwain, mae popeth wedi bod lan i hyn.

"Popeth."

"Mae biti 50 o ni 'ma i gyd, mae teulu Ben a teulu Megan 'ma a ffrindiau, a mae'r fflag Cymraeg 'da ni."

"Ni gyd yn falch ambiti fe yn y Paralympics.

"Mae'n gobeithio cael medal so fingers crossed bod e yn y top 3 a tro hyn bydd babi gyda ni yn y stand hefyd."

"O'dd e yn yr ysbyty wyth mlynedd yn ôl yn gorwedd yn ei wely.

"Oedd e'n edrych ar y Paralympics ar y teledu ac yn meddwl un dydd fydda i yna, a mae e wedi cyrraedd 'ma.

"Ni mor falch bod e 'ma."

Faint mae rhwyfo wedi helpu fe a chi?

"Mae 'di helpu fe lot.

"Cyn y ddamwain oedd e'n seiclo a nofio so mae chwaraeon trwy'r amser wedi bod yn rili important iddo fe.

"Nawr mae fe'r ffordd mae fe'n gallu copeio gyda'r ddamwain."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.