Dechrau'r cam cyntaf o waith cadwraeth sylweddol yn Abaty Tyndyrn
Mae cam cyntaf y gwaith cadwraeth i'r capeli yn yr abaty yn Nhyndyrn wedi dechrau meddai Cadw.
Mae seiri maen arbenigol Cadw wedi gweithio ar yr Abaty am y 40 mlynedd diwethaf i'w ddiogelu i'r dyfodol.
Yn sgil hafau cynhesach a gaeafau gwlypach, ac yn sgil camosod y cerrig gwreiddiol, bu sawl ymdrech dros y blynyddoedd i ddelio â'r dirywiad yn y cerrig.
Mae'r gwaith newydd yn cynnwys brwsio'r gwaith cerrig sydd wedi dod yn rhydd ac yn plisgo i ddadorchuddio'r hyn sydd oddi tanynt.
Bydd cerrig bregus yn cael eu cryfhau gan ddefnyddio morter gwan, llawn calch cyn eu pinio ynghyd a'u rhoi yn ôl yn y gwaith maen o'u cwmpas.
Mae'r hen strapiau copr - a gynlluniwyd yn wreiddiol i ddal cerrig yn eu lle - wedi pydru felly byddant yn cael eu tynnu unwaith y bydd y pinnau newydd wedi'u gosod.
Hesian gwlyb
Bydd y seiri maen yn lapio'r gwaith gorffenedig mewn hesian gwlyb i reoli'r broses o sychu'r morter newydd.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan Grosvenor Construction Ltd, contractwr cadwraeth arbenigol o ogledd Cymru fu'n gyfrifol am gynnal y prosiect ailddatblygu cyffrous diweddar ar Borth y Brenin, Castell Caernarfon.
Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw: “Am bron 900 mlynedd mae'r abaty wedi bod yn croesawu addolwyr, noddwyr cyfoethog ac ymwelwyr i'r lleoliad heddychlon hwn, ac unwaith eto mae angen ychydig o sylw arno.
"Mae'n wych gweld y gwaith hwn yn dechrau fel y gall y cenedlaethau i ddod fwynhau'r safle hanesyddol eiconig hwn."
Llun: Cadw