Cyhoeddi rhagor o wasanaethau bysiau yng Nghaerdydd
Bydd rhagor o wasanaethau bysiau yn rhedeg o Gaerdydd o ddydd Sul ymlaen.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd 14 gwasanaeth bws ychwanegol yn rhedeg o Gyfnewidfa Fysiau newydd Caerdydd.
Bydd Bws Caerdydd yn cyflwyno mwy o wasanaethau i deithio i rannau eraill o’r ddinas, tra bydd bws Casnewydd yn ymuno â Bws Caerdydd a Stagecoach i redeg gwasanaethau o’r gyfnewidfa a agorwyd fis Mehefin.
Bydd y gwasanaethau ychwanegol yn cynyddu nifer y bysiau sy'n dod i mewn i'r gyfnewidfa o 1,830 yr wythnos i 3,476 yr wythnos.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhagweld y bydd nifer y cwsmeriaid yn cynyddu o 2,000 y dydd i rhwng 8,000 a 9,000 y dydd.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch y bydd mwy o fysiau yn rhedeg o’r gyfnewidfa fysiau ym mis Medi, gan gynnwys rhai gwasanaethau prysur yng Nghaerdydd a gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
“Ers agor ddiwedd mis Mehefin, rydym wedi parhau i weld cynnydd yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r gyfnewidfa, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy fyth o fis Medi.
“Bydd y gwasanaethau newydd hyn yn darparu mwy o opsiynau ac yn cynnig gwell cysylltiadau i gwsmeriaid sy’n teithio o amgylch Caerdydd a’r rhanbarth.”
Yn gynharach eleni, fe wnaeth Bws Caerdydd dro pedol yn dilyn cyhoeddiad y llynedd y byddai sawl gwasanaeth yn y brifddinas yn newid neu yn cael eu torri yn gyfan gwbl.
Cafodd rhai o lwybrau bws oedd am gael eu cwtogi eu hail cyflwyno fis Mawrth, yn dilyn “hwb ariannol” gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Bws Caerdydd.