Cynllun i ychwanegu 50% yn fwy o drenau ar reilffyrdd y gogledd
29/08/2024
Cynllun i ychwanegu 50% yn fwy o drenau ar reilffyrdd y gogledd
A fo ben, bid bont. I'r Fflint aeth y gwleidydd sy'n bennaeth ar drafnidiaeth yng Nghymru heddiw.
Yno maen nhw'n codi pont newydd dros y rheilffordd ac yn gobeithio bydd rhagor ohonynt yn arwain at fwy o drenau.
Cau croesfannau i gerddwyr ydy'r bwriad. Fe fydd dwy yn cau ger Abergele, gyda phont newydd yn cael ei chodi.
Bydd dwy groesfan arall ger Prestatyn hefyd yn cau a therfyn cyflymder ar drenau, felly, yn dod i ben.
Fe fydd hynny'n caniatau i drenau deithio'n gyflymach ac i dri thrên deithio bob awr, yn hytrach na dau.
"Gynnon ni bedwar croesfan sy'n rhy beryg i ni er mwyn codi'r amserlen. 'Dan ni'n gweithio efo'r gymuned i weld sut gallwn ni... godi'r amserlen a neud o'n saffach i bawb arall hefyd."
Mae'r gwaith yn cael ei gwblhau gan awdurdodau Cymreig a Phrydeinig. Llafur yn dweud bod hynny'n enghraifft o'r ffordd gall Llywodraeth Cymru a Llundain gydweithio ond mae 'na amheuon ynghylch cynllun arall i drydaneiddio'r rheilffordd yma yn y gogledd.
Cynhadledd y Ceidwadwyr y llynedd, a Phrif Weinidog y dydd yn addo symud arian o gynllun HS2 i dalu am lein y gogledd. Ond wedi ennill yr etholiad, mae Llafur yn dadlau nad oedd yr arian hynny yn bodoli mewn difri.
"Ultimately we'd like electrification. We have to be realistic. That was part of a £22 billion gap under the Tory government.
"They might as well have been promising a ladder to the moon."
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud i Lywodraeth Cymru ddangos diffyg uchelgais yn y gogledd o gymharu â'r arian mawr sy'n cael ei wario yng Nghaerdydd a Chymoedd y De.
Mae'r cynllun newydd yn un sylweddol medde rhai er i ddechre'r gwaith gael ei ohirio.
"Mae 'na gysylltiad yn mynd i fod rhwng Lerpwl a'r gogledd am y tro cyntaf ac yn fy marn i mae ei angen ers degawdau.
"Mae 'na gymaint o gysylltiadau agos rhwng y rhanbarthau yna. Y siom ydy bod angen aros dwy flynedd arall am y newid yma.
"Oedden ni fod i gael hwnna yn 2022."
Mae trenau newydd wedi cael eu cyflwyno'n ddiweddar a rhai yn ddigon bodlon gyda'r gwasanaeth.
"Oedd o'n excellent."
Ar amser a gethoch chi sedd heb drafferth?
"Croeso ar drên Trafnidiaeth Cymru."
Mae teithwyr y gogledd wedi galw ers tro am godi safonau. Wnaiff hynny ddim digwydd dros nos a'r Llywodraeth yn dweud bydd y trenau ychwanegol ar y cledrau yn 2026.