Y Seintiau Newydd yn creu hanes drwy sicrhau lle yng Nghyngres Europa
Mae'r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu lle yng Nghyngres Europa 2024/25 ar ôl ennill 3-0 dros ddau gymal yn eu rownd ragbrofol yn erbyn pencampwyr Lithwania, Panevėžys.
Er mai di-sgor oedd y canlyniad yn Neuadd y Parc nos Iau, roedd y canlyniad yn ddigon i greu hanes i'r clwb wrth gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed.
Y Seintiau gafodd y mwyafrof o'r cyfleoedd prin yn yr hanner cyntaf ac ergyd nerthol gan Adrian Cieślewicz a wnaeth hedfan dros y bar oedd y cyfle gorau.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i'r ymwelwyr pan dderbyniodd Rokas Rasimavičius ei ail gerdyn melyn wedi 62 munud gan adael yr ymwelwyr gyda 10 dyn yn weddill.
Cadwodd y Seintiau y meddiant yn yr ail hanner gan sicrhau buddugoliaeth a lle yn Ngyngres Europa.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1829254992953483573
Y clwb o Groesoswallt yw'r tîm cyntaf o byramid Cymru i gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop ers i’r Barri chwarae yn rownd gyntaf Cwpan UEFA yn 1996.
Roedd y Seintiau mewn safle delfrydol yn dilyn goliau gan Danny Davies, Dan Williams a Ben Clark yn yr ail hanner draw ym mhrif ddinas Lithwania, Vilnius nos Iau diwethaf.
Cyn y canlyniad nos Iau, roedd eu rhediad gorau yn nhymor 2010/11 – er ennill dim ond un rownd y tymor hwnnw (yn erbyn Bohemians yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr), cyn colli yn erbyn Anderlecht, fe gafodd y Seintiau chwarae mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Cynghrair Europa.