Dros 25 o gerbydau wedi eu difrodi mewn tân ger Abertawe
Mae dros 25 o gerbydau wedi cael eu dinistrio mewn tân mewn maes parcio ger Abertawe.
Cafodd saith o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i faes parcio ar Ffordd Abertawe yng Ngorseinon ddydd Gwener.
Roedd y criwiau wedi eu galw yno am 14:20 cyn gadael dwyawr a hanner yn ddiweddarach am 16:50.
Dywedodd llefarydd bod saith cartref modur wedi eu dinistrio'n llwyr gan y tân a chwech arall eu difrodi.
Cafodd pedwar cerbyd, wyth fan a bws mini eu difrodi hefyd.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod un dyn 25 oed wedi dioddef mân anafiadau.
Ychwanegodd y llu eu bod yn credu bod y tân wedi dechrau'n ddamweiniol.
Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru