Newyddion S4C

Ymgynghorydd diogelwch wedi ei ladd a dau newyddiadurwr wedi eu hanafu yn Wcráin

26/08/2024
Ryan Evans

Mae ymgynghorydd diogelwch o Brydain a oedd yn gweithio gydag asiantaeth newyddion Reuters wedi ei ladd, ar ôl i daflegrau daro gwesty yn nwyrain Wcráin.

Mewn datganiad, dywedodd Reuters bod marwolaeth Ryan Evans, 38, wedi eu llorio. 

Ychwanegodd yr asiantaeth newyddion bod dau o'u newyddiadurwyr hefyd wedi eu hanafu.  

Roedd Mr Evans yn aelod o'r criw a oedd yn aros yng ngwesty'r Sapphire yn Kramatorsk, pan gafodd ei daro gan daflegrau ddydd Sadwrn.  

Dywedod llefarydd ar ran Reuters: “Ry'n ni yn ceisio darganfod rhagor o wybodaeth ar frys am yr ymosodiad, ac ry'n ni mewn cyswllt â'r awdurodau yn Kramatorsk, ac yn cefnogi ein cyd-weithwyr a'u teuluoedd.

“Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at deulu Ryan a'i ffrindiau.  

“Mae Ryan wedi helpu cymaint o newyddiadurwyr wrth iddyn nhw ohebu ar ddigwyddiadau o amgylch y byd; byddwn wir yn ei golli.”

Ychwanegodd Reuters bod dau o'u newyddiadurwyr mewn ysbyty, gydag un yn cael triniaeth ar gyfer anafiadau difrifol.  

Mae tri aelod arall o'r asiantaeth newyddion yn ddiogel.  

Yn ôl yr awdurdodau yn Wcráin, lluoedd Rwsia ymosododd ar y gwesty.

Dyw Rwsia ddim wedi gwneud sylw.  

Llun: Ryan Evans gan Reuters 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.