Newyddion S4C

Cannoedd o nofwyr cors yn heidio i Lanwrtyd ar gyfer pencampwriaeth y byd

25/08/2024
cors

Fe fydd cannoedd o nofwyr cors yn heidio i Lanwrtyd ym Mhowys ddydd Sul ar gyfer Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd.

Dros dri degawd ers ei sefydlu, mae'r digwyddiad bellach yn denu cystadleuwyr o gyn belled i ffwrdd â Sweden, yr Almaen, y Weriniaeth Tsiec a hyd yn oed Awstralia.

Cafodd ei sefydlu yn 80au'r ganrif ddiwethaf, ac mae'r digwyddiad yn codi arian at achosion da.

Bydd hyd at 150 yn cymryd rhan yn y brif ras yng nghors Waen Rhydd, a'r record i'w churo yw un munud a 12 eiliad.

Y llynedd Neil Rutter ddaeth i'r brig yn y brif ras, ac mae wedi bod yn bencampwr ar y gystadleuaeth bump o weithiau.

Mae nifer o'r cystadleuwyr yn dewis gwisgo gwisg ffansi wrth gymryd rhan.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.