Suddo'r Bayesian: Ystyried ymchwiliad i ddynladdiad wedi marwolaethau saith o bobl
Suddo'r Bayesian: Ystyried ymchwiliad i ddynladdiad wedi marwolaethau saith o bobl
Mae ymchwiliad i ddynladdiad posib wedi dechrau i farwolaethau saith o bobl, gan gynnwys y biliwnydd Prydeinig Mike Lynch a’i ferch Hannah, yn dilyn llongddryddiad llong hwylio'r Bayesian oddi ar arfordir Sisili, meddai erlynydd cyhoeddus yn yr Eidal.
Y gred yw bod y bobl a fu farw yn cysgu ychydig cyn y trychineb medd ymchwilwyr - a bod cyrff yr unigolion oedd ar y cwch wedi eu darganfod mewn un caban penodol yn y cwch.
Dywedodd yr erlynydd Raffaele Cammarano: “Daethpwyd o hyd i’r cyrff mewn caban nad oedd yn eiddo iddyn nhw ond nid yw hyn yn rhoi unrhyw fath o sicrwydd i ni ynglŷn â beth ddigwyddodd.
“Does gennym ni ddim syniad o’r rhesymau pam eu bod nhw i gyd wedi cael eu darganfod yn yr un caban.”
Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Sadwrn, esboniodd Ambrogio Cartosio yr erlynydd cyhoeddus sut y cafodd chwe chorff eu symud o'r cwch oedd ar wely'r môr: “Cafodd y chwe pherson hyn a geisiodd yn daer i achub eu hunain eu darganfod o’r diwedd.
“Yn gyntaf, pedwar ohonyn nhw. Cafodd Jonathan Bloomer y bancwr, Christopher Morvillo y cyfreithiwr, a’r pedwar ohonyn nhw eu cludo o du mewn i’r cwch hwylio oedd 50 metr i lawr.
“Yna, yn ddiweddarach, cafodd y ddau arall eu darganfod hefyd.
“Michael Lynch ar y 23ain, ddoe, ac yna cafwyd hyd i ferch 18 oed Michael Lynch, Hannah, fore ddoe.
“Mae’n drasiedi ddifrifol iawn ac er mwyn lleihau dimensiynau’r drasiedi, rydym wedi galw ar gydweithrediad y diffoddwyr tân, y deifwyr o'r gwasanaeth tân, sydd wedi dangos dewrder a sgil anhygoel, a gyflawnodd dasg anodd iawn ac maent wedi caniatáu inni archwilio’r llongddrylliad yn iawn am gyrff.”
Ddydd Gwener, Hannah Lynch, 18 oed, oedd y teithiwr olaf ar y cwch i gael ei darganfod yn dilyn y llongddrylliad.
Y prif gwestiwn y mae ymchwilwyr yn canolbwyntio arno yw sut y suddodd llong hwylio fodern o'r iard hwylio Eidalaidd Perini Navi, tra bod cwch hwylio gyfagos wedi goroesi'r storm.
Bu farw Hannah a’i thad Mike Lynch, ynghyd â chadeirydd banc Morgan Stanley International Jonathan Bloomer, ei wraig Judy Bloomer, cyfreithiwr y cwmni Clifford Chance Chris Morvillo a’i wraig Neda Morvillo pan suddodd y cwch hwylio tua 05:00 ddydd Llun.
Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Lynch a Hannah: “Mae'r teulu wedi’u difrodi, mewn sioc ac yn cael eu cysuro a’u cefnogi gan deulu a ffrindiau.
“Mae eu meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio gan y drasiedi.
“Hoffent ddiolch yn ddiffuant i wylwyr y glannau yn yr Eidal, y gwasanaethau brys a phawb a helpodd yn yr ymdrech achub.
“Eu hunig gais nawr yw bod eu preifatrwydd yn cael ei barchu ar yr adeg hon o alar.”
Llun: Jonathan Brady/PA Wire