Cyhuddo dyn o Gilgwri o achosi marwolaeth dyn o Wynedd drwy yrru'n beryglus
Mae dyn o Gilgwri wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth dyn o Wynedd drwy yrru'n beryglus.
Fe wnaeth Roger Brenninkmeyer, 60, o Neston, ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth Droy Darroch-York, 20, o Nefyn, drwy yrru cerbyd BMW yn beryglus ar y B4354 ym Mhentreuchaf ger Pwllheli.
Bu farw Mr Darroch-York ar 4 Mehefin 2022 yn dilyn y gwrthdrawiad.
Clywodd cwest i'w farwolaeth ei fod wedi marw yn y fan a'r lle o ganlyniad i anafiadau i'w ben ar ôl i'w gar droi drosodd.
Cafodd dyn 57 oed ei gludo i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau oedd yn cael eu disgrifio ar y pryd fel rhai oedd yn peryglu ei fywyd.
Cafodd y diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod gan ynadon Caernarfon nes y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon fis Medi.