Pêl-droed: Hwlffordd yn anelu i barhau gyda'u rhediad o ennill bob gêm
Er ei bod hi’n gynnar yn y tymor, mae’n gyfnod pwysig i glybiau’r Cymru Premier JD gyda dwy gêm i’w chwarae o fewn tridiau dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Bydd Hwlffordd yn hoffi parhau â’u record 100% ar gopa’r gynghrair, tra bydd y newydd-ddyfodiaid, Llansawel a’r Fflint yn gobeithio gallu ennill eu pwyntiau cyntaf ers eu dyrchafiad.
Hwlffordd v Pen-y-bont | Nos Wener – 19:45
Hwlffordd sy’n arwain y ffordd ar ddechrau’r tymor gan mai nhw yw’r unig dîm i chwarae dwy ac ennill dwy yn y gynghrair hyd yma.
Sgoriodd Owain Jones wedi 90 munud ar yr Oval ddydd Sadwrn i sicrhau buddugoliaeth o 2-1 i Hwlffordd oddi cartref yn erbyn Caernarfon, ac hynny ar ôl ennill 1-0 yng Nghei Connah ar y penwythnos agoriadol.
Ac er mai hon fydd gêm gartref gyntaf Hwlffordd y tymor hwn, bydd yr ornest yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin gan bod cae 4G newydd wrthi’n cael ei osod yn eu cartref arferol yn Nôl y Bont.
Bydd hogiau Hwlffordd ddim yn poeni’n ormodol am hynny gan eu bod eisoes wedi chwarae unwaith ar Barc Waun Dew y tymor hwn gan ennill 5-0 yn erbyn Caerfyrddin yng Nghwpan Nathaniel MG.
Mae Pen-y-bont wedi dechrau’n ddigon cadarn hefyd gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Llansawel cyn cael gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Y Drenewydd.
Mae gan Ben-y-bont record amddiffynnol ardderchog, ac mae tîm Rhys Griffiths wedi cadw llechen lân mewn 10 o’u 11 gêm ddiwethaf, ac ond wedi ildio’n ystod y rhediad hwnnw yn erbyn Caernarfon yn rownd derfynol gemau ail gyfle Ewrop.
Enillodd Pen-y-bont dair o’u pedair gêm yn erbyn Hwlffordd y tymor diwethaf, gan gadw tair llechen lân, a dyw bechgyn Bryntirion heb golli oddi cartref yn y gynghrair ers mis Rhagfyr (yn erbyn YSN).
Llansawel v Met Caerdydd | Nos Wener – 19:45
Mae Llansawel yn dal i aros am eu pwyntiau cyntaf a’u gôl gyntaf yn yr uwch gynghrair ar ôl colli 2-0 yn erbyn Pen-y-bont a’r Bala yn eu dwy gêm agoriadol.
Mae Met Caerdydd wedi dechrau’n ddigon taclus gyda buddugoliaeth oddi cartref yn Y Fflint cyn cael gêm gyfartal gartref yn erbyn Y Barri.
Llansawel yw’r unig dîm sydd heb sgorio’n y gynghrair y tymor yma, a bydd y rheolwr Andy Dyer yn benderfynol o newid hynny nos Wener.
Dyw’r clybiau heb gyfarfod ers Rhagfyr 2015 pan enillodd Llansawel o 2-1 gartref yng Nghynghrair y De.
Y Bala v Y Fflint | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)
Sgoriodd Alex Downes ddwywaith dros ei glwb newydd yr wythnos diwethaf i sicrhau buddugoliaeth o 2-0 i’r Bala gartref yn erbyn Llansawel.
Honno oedd buddugoliaeth gyntaf Y Bala’n y gynghrair ers mis Mawrth yn dilyn rhediad o bum gêm gynghrair heb ennill (cyfartal 4, colli 1).
Mae hi wedi bod yn ddechrau rhwystredig i’r Fflint ers esgyn yn ôl i’r uwch gynghrair, yn colli 5-1 yn y gwpan yn erbyn YSN, cyn colli 2-1 gartref yn erbyn Met Caerdydd, a cholli 4-1 gartref yn erbyn y Seintiau eto nos Wener diwethaf.
A bydd hi’n dasg anodd unwaith yn rhagor nos Wener yma yn erbyn Y Bala, sydd heb golli yn eu 10 gornest flaenorol yn erbyn Y Fflint (ennill 9, cyfartal 1).
Y Drenewydd v Caernarfon | Nos Wener – 19:45
Am yr eildro’r tymor hwn bydd Caernarfon yn teithio i’r Drenewydd ble enillodd y Caneris ar giciau o’r smotyn yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG yn gynharach yn y mis.
Ar ôl haf i’w gofio yn Ewrop bydd Caernarfon yn hynod siomedig o fod wedi colli eu gêm gynghrair agoriadol ddydd Sadwrn diwethaf, ac hynny ym munudau olaf eu gêm gartref yn erbyn Hwlffordd.
Roedd yna amheuaeth y byddai’r Drenewydd yn edrych yn wan eleni ar ôl colli sawl chwaraewr dylanwadol dros yr haf, ond i’r gwrthwyneb, mae’r Robiniaid wedi dechrau’n gryf gyda thriphwynt yn erbyn Aberystwyth a gêm ddi-sgôr oddi cartref ym Mhen-y-bont.
Roedd Y Drenewydd wedi ennill chwe gêm gartre’n olynol yn erbyn Caernarfon gan ildio dim ond unwaith cyn i’r timau gyfarfod dair wythnos yn ôl ble orffennodd hi’n 2-2 cyn i’r Cofis gipio’r fuddugoliaeth ar giciau o’r smotyn.
Aberystwyth v Y Barri | Nos Wener – 20:00
Wedi’r golled siomedig yn erbyn Y Drenewydd ar y penwythnos agoriadol, bydd Aberystwyth yn falch o fod wedi cipio pwynt yn erbyn Cei Connah nos Wener diwethaf diolch i gôl anhygoel John Owen (Aber 1-1 Cei).
Ac 1-1 oedd y sgôr rhwng Met a’r Barri nos Wener hefyd, sef y seithfed tro i’r Barri gael gêm gyfartal 1-1 yn eu 11 gêm ddiwethaf.
Dyw’r Barri heb golli yn eu tair gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth (ennill 2, cyfartal 1) ond bydd y ddau dîm yn anelu am eu triphwynt cyntaf yn y tymor newydd.
Gorffennodd Aberystwyth a’r Barri yn y 10fed a’r 9fed safle y tymor diwethaf, sef y ddau safle uwchben safleoedd y cwymp, a bydd y timau’n gobeithio am dymor llai nerfus y tro hwn.
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru