Newyddion S4C

Y Brenin Charles yn ymweld â dioddefwyr ymosodiad Southport

20/08/2024
Charles yn Southport

Mae'r Brenin Charles wedi ymweld â'r rhai oroesodd yr ymosodiad â chyllell yn Southport ar Lannau Mersi ar 29 Gorffennaf.  

Mae e wedi bod yn siarad â'r rhai a gafodd eu hanafu yn ogystal â'u teuluoedd.

Cyrhaeddodd y Brenin neuadd y dref toc ar ôl 13:30, lle mae teyrngedau wedi eu gadael er cof am Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed, ac Alice da Silva Aguiar, naw oed, a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad.

Roedd y cyfarfod yn un preifat, ac yn gyfle i'r Brenin glywed profiadau rhai o'r bobl ifanc a gafodd eu hanafu yn ystod yr ymosodiad yn y dosbarth dawns ddiwedd Gorffennaf.  

Mae disgwyl iddo gwrdd â theulu0edd y tair merch a gafodd eu lladd yn Llundain ddydd Mercher. 

Tra ar ymweliad â Southport brynhawn Mawrth, fe aeth y Brenin Charles i'r orsaf dân leol, er mwyn cyfarfod ag aelodau'r gwasanaethau brys a gafodd eu galw i'r gyflafan.  

Wedi'r ymosodiad fis Gorffennaf, bu golygfeydd treisgar mewn nifer o ddinasoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda gwestai sy'n cynnig llety i geiswyr lloches yn cael eu targedu.  

Mae cannoedd wedi cael eu harestio.

Mae'r Brenin wedi bod yn trafod  y trais mewn cyfarfodydd preifat, ac roedd e'n derbyn diweddariad yn ddyddiol pan roedd yr anhrefn ar ei waethaf.  

Mae Axel Rudakubana, sy'n 18 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddio Bebe King, Elsie Dot Stancombe ac Alice da Silva Aguiar yn Southport. 

Mae e hefyd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio'r athrawes ioga Leanne Lucas, y dyn busnes John Hayes, ac wyth plentyn nad oes modd cyhoeddi eu henwau am resymau cyfreithiol.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.