‘Ges i fy nhynnu'n ddarnau’: Mam i bedwar yn effro yn ystod 'llawdriniaeth flêr' yn Nhwrci
Mae disgrifiadau manwl yn yr erthygl hon am gymhlethodau meddygol.
Mae dynes a gafodd lawdriniaeth i leihau maint ei stumog yn Nhwrci cyn dychwelyd yno am driniaeth arall yn dweud bod y profiad yn hunllefus.
Cafodd Sara Platt sy'n 33oed, ei llawdriniaeth gyntaf yn Nhwrci yn 2021.
Collodd 12 stôn, ond fe wnaeth hynny ei gadael â gormod o groen. Dywedodd fod y croen yn achosi briwiau ac arogl annymunol.
Ym mis Chwefror 2023, teithiodd Sara i Dwrci i gael tynnu'r croen yn ogystal â chael mewnblaniadau yn ei bronnau.
Ond unwaith iddi ddeffro o'r driniaeth, fe wnaeth hi synhwyro bod rhywbeth o'i le.
"Dwi'n cofio deffro a fy nhad wrth fy ymyl ac yn dweud, 'mae angen i ti anadlu Sara, mae angen i ti anadlu'," meddai.
"Roedd yna lwyth o nyrsys o'm cwmpas ac roeddwn i fel 'lladdwch fi, dywedwch wrthyn nhw i’m lladd i, Dad, mae angen i chi ddweud wrthyn nhw i’m lladd i. Alla i ddim gwneud hyn, mae angen i chi ddweud wrthyn nhw'.
"Do’n i erioed wedi profi hyn ... ro’n i eisiau marw. Do’n i ddim yn gallu delio â'r boen yna.
"Dwi’n cofio sylweddoli, ar ôl awr o fod yn effro, bod fy mron yn borffor. Roedd hi’n hollol borffor."
'Pydru'
Naw diwrnod ar ôl ei llawdriniaeth, roedd Sara yn teimlo'n ddifrifol wael. Fe wnaeth hi benderfynu gofyn i’w gŵr ei helpu i gael gwared â'r rhwymynnau yn ystafell ymolchi'r gwesty.
"Wrth iddo eu dadwneud, fe wnaeth yr holl hylif brown yma ddechrau treiddio allan o’m corff. Fe wnes i sgrechian. Ges i fy nhynnu'n ddarnau.
"Nid yw'n wyliau iechyd. Fe ddywedon nhw wrthyf i y byddwn i'n eistedd wrth y pwll o fewn tridiau. Ro’n i'n pydru yn ystafell y gwesty."
Wrth iddi hi orwedd yn yr ystafell, nid oedd ei chlwyfau yn gwella.
Yna penderfynodd y llawfeddyg gynnal ail lawdriniaeth. Ond y tro hwn, cafodd Sara ei chludo i'r hyn a oedd yn ymddangos fel clinig harddwch, yn ei barn hi.
Anesthetig lleol yn unig gafodd ei ddefnyddio yn ystod y llawdriniaeth. Roedd hyn yn golygu bod Sara yn effro tra bod y meddyg yn gweithio ar y clwyf yn ei stumog.
"Cafodd offeryn llosgi ei ddefnyddio. Ac fe wnaeth e ddechrau fy llosgi. A bydd hynny, am weddill fy oes, yn fy mhoeni bob dydd, bob nos. Roedd hynny wedi difetha fy mywyd", meddai.
"Ro’n i'n gallu clywed fy nghroen yn hisian. Ro’n i'n teimlo fel fy mod ar dân."
'Bygythiad bywyd'
Ar ôl yr ail lawdriniaeth, cafodd tystysgrif ei rhoi i Sara oedd yn nodi ei bod hi’n ddigon iach i deithio. Felly, cafodd hi ganiatâd i ddychwelyd i dde Cymru.
Pan wnaeth hi gyrraedd yn ôl, aeth i'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Treforys, Abertawe at yr Athro Iain Whitaker, sef y Llawfeddyg Plastig Ymgynghorol oedd ar alwad.
"Roedd gan Sara haint sylweddol, llawer o feinwe wedi marw. Roedd yn fygythiad i’w bywyd, pe bai oedi wedi bod cyn iddi gael ei derbyn neu drosglwyddo i'r ysbyty, yna yn bendant byddai perygl iddi farw," meddai’r Athro Whitaker.
Treuliodd Sara fwy nag wyth wythnos yn yr ysbyty a chafodd naw llawdriniaeth i achub ei bywyd ac ailadeiladu ei chorff.
Nid oedd modd achub ei bron dde ac mae ganddi greithiau sylweddol, gan gynnwys grafft croen ar ei stumog.
Fe wnaeth Sara adael i ITV News ei dilyn hi wrth iddi hi gael ei degfed llawdriniaeth gywirol yn dilyn ei llawdriniaeth flêr yn Nhwrci.
Dywedodd hi ei bod hi wedi gadael i’r camerâu ddod gyda hi er mwyn dangos y canlyniadau gwirioneddol o gael triniaethau cosmetig dramor a rhybuddio eraill.
Ar 14 Awst, 2024, cafodd Sara lawdriniaeth i cael gwared â'r grafft croen, oedd yn 8cm mewn lled ac 11cm mewn hyd.
Fe wnaeth yr Athro Whitaker gwblhau'r driniaeth yn llwyddiannus.
Mae'n credu y bydd hyn yn lleihau ei phoen yn sylweddol.
Mae Cymdeithas Llawfeddygon Plastig Esthetig Prydain yn amcangyfrif mai £15,000 yw'r gost gyfartalog i'r GIG drin pob claf sydd â chymhlethdodau yn sgil llawdriniaeth dramor.
Yn ogystal â'r goblygiadau ariannol, ychwanegodd yr Atho Whitaker bod trin cleifion fel Sara hefyd yn costio i'r GIG gan fod gwelyau yn cael eu defnyddio "lle gallai cleifion eraill gael eu trin".
Mae Sara'n dweud na allai "fod yn fwy diolchgar" am ei llawdriniaeth a'r gofal mae hi wedi’i dderbyn, ac y bydd yn "ad-dalu'r GIG am achub fy mywyd".