Newyddion S4C

Llongddrylliad y Bayesian: Y chwilio’n parhau yn yr Eidal ddydd Mawrth

20/08/2024
Jonathan Brady/PA Wire

Mae'r dasg o chwilio am chwe pherson sydd ar goll ar ôl i gwch hwylio'r Bayesian suddo oddi ar arfordir yr Eidal yn parhau dydd Mawrth.

Mae'r entrepreneur technoleg o Brydain, Mike Lynch, a’i ferch 18 oed, Hannah Lynch ymhlith y bobl sydd ar goll.

Mae pedwar o’r teithwyr sydd ar goll yn Brydeinwyr a dau yn Americanwyr, meddai'r wefan newyddion Eidalaidd la Repubblica.

Dywedodd y BBC fod cadeirydd Banc Rhyngwladol Morgan Stanley, Jonathan Bloomer a chyfreithiwr cwmni Clifford Chance, Chris Morvillo ymhlith y rhai sydd ar goll.

Cafwyd Mr Lynch, a sefydlodd y cwmni meddalwedd Autonomy ym 1996, yn ddieuog ym mis Mehefin o gyflawni twyll enfawr yn ymwneud â gwerthiant 11 biliwn o ddoleri (£8.64 biliwn) i gwmni Hewlett Packard.

Bu farw ei gyd-ddiffynnydd, Stephen Chamberlain, ar ôl cael ei daro gan gar tra oedd allan yn rhedeg yn Sir Gaergrawnt ddydd Sadwrn.

Corff

Cafodd un corff ei ddarganfod yn dilyn y llongddrylliad fore Llun, a'r gred yw mai cogydd y cwch sydd wedi cael ei ddarganfod.

Dywedodd gwasanaeth tân yr Eidal, Vigili del Fuoco, fod archwiliadau cynnar o’r llongddrylliad yn “aflwyddiannus” oherwydd mynediad cyfyngedig i'r cwch.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys achub 15 o bobl fore Llun, gan gynnwys plentyn, wedi i'r cwch fynd i drafferthion yng nghanol tywydd garw oddi ar arfordir Palermo yng ngogledd Sisili.

Roedd y cwch hwylio, oedd yn teithio â 10 aelod o griw a 12 o deithwyr, wedi dechrau suddo oddi ar arfordir Palermo pan gafodd yr ardal ei tharo gan gorwynt.

Dywedodd Fabio Cefalu, pysgotwr lleol wrth gyfryngau’r Eidal iddo aros ger safle'r llongddrylliad am nifer o oriau.

“Ar ôl 10 munud welsom fflêr yn yr awyr, fe wnaethon ni aros tua 10 munud i weld maint y corwynt ac aethon ni allan i’r môr,” meddai.

“Ni oedd y cyntaf i gyrraed ond ni ddaethom o hyd i neb ar y môr, dim ond clustogau a gweddillion y cwch y daethom o hyd iddynt.”

'Sgrechain am help'

Dywedodd Charlotte Emsley, un o'r bobl a gafodd eu hachub wrth la Repubblica iddi achub ei merch un oed, Sofia, rhag boddi.

“Roeddwn i'n gafael ynddi uwchben y dŵr gyda fy holl nerth, fy mreichiau'n ymestyn i fyny i'w hatal rhag boddi.

“Roedd yn dywyll iawn. Yn y dŵr doeddwn i ddim yn gallu cadw fy llygaid ar agor. Fe wnes i sgrechian am help ond y cyfan roeddwn i’n gallu ei glywed o’m cwmpas oedd pobl eraill yn sgrechian.”

Mae Charlotte a Sofia wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty ac mae'r ddwy mewn cyflwr sefydlog erbyn hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor ddydd Llun: “Rydym mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol yn dilyn digwyddiad yn Sisili, ac yn barod i ddarparu cefnogaeth i bobl Prydain sydd wedi cael eu heffeithio.”

Mae'r cwch sydd wedi suddo, y Bayesian, yn 56 metr o hyd, yn ôl gwefan dilyn llongau VesselFinder.

Cafodd ei adeiladu yn 2008 gan y cwmni Eidalaidd Perini Navi.

Cwblhaodd y Bayesian nifer o deithiau yn ystod y dyddiau diwethaf, gan alw mewn gwahanol borthladdoedd yn Sisili.

Llun: Jonathan Brady/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.