Cyflwyno celloedd cosb er mwyn diogelu dyfarnwyr mewn gemau pêl-droed ar lawr gwlad
Cyflwyno celloedd cosb er mwyn diogelu dyfarnwyr mewn gemau pêl-droed ar lawr gwlad
Gem ddarbi rhwng Pontarddulais a Garden Village yn Uwchgynghrair y Gorllewin a'r cefnogwyr yn gobeithio gweld gem gyffrous.
Mewn gemau ar lawr gwlad y bydd y gell gosb yn cael ei chyflwyno wedi cyfnod prawf ddechreuodd y tymor diwethaf.
Mae fe wedi gwneud tamed bach o wahaniaeth.
Mae pobl yn meddwl ddwywaith cyn siarad i'r dyfarnwr.
Mae'r dyfarnwyr, fel y chwaraewr yn wneud e achos maen nhw'n caru pel-droed.
So'n nhw eisiau cael pobl yn sgrechian arnyn nhw am 90 munud pob penwythnos.
Mae'n bwysig bod bawb yn dangos parch tuag at y ref.
I ti, fel capten, ydy e'n fwy o gyfrifoldeb?
Wyt ti'n gorfod atgoffa chwaraewyr cyn gadael yr ystafell newid bod rhaid bihafio?
Ydw, mae lot mwy o pressure i fi ar ben fy hunan i siarad i'r ref os mae unrhyw beth yn dechrau mynd yn rhy dwym!
Gyda dros 1,000 o ddyfarnwyr wedi cefnu ar y gem yma, yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf y gobaith yw y bydd y drefn newydd yn hwyluso eu gwaith.
Mae o'n arf newydd i ni, fel dyfarnwyr i ddefnyddio i ddelio efo problem sy'n broblem eithaf mawr ond mae o'n rhywbeth gwahanol 'dan ni'n gallu defnyddio.
Does neb yn licio gweld chwaraewr yn cael cerdyn melyn am gega pan mai'r dyfarnwr yw'r unig berson sydd 'di glywed o.
Mae o'n mwy effeithiol pan mae'r chwaraewr yn gorfod gadael y cae am ddeg munud.
Mae hynny'n cael effaith ar y chwaraewr ac ar y tim.
Mae o'n dod nol i'r syniad os oes 'na ddim problem gan y timau dydyn nhw ddim yn mynd i gael eu heffeithio.
Mae ystadegau gan y Gymdeithas Bel-droed yn awgrymu bod pethau wedi gwella yn ystod y cyfnod prawf gyda nifer y rhybuddion gafodd eu rhoi am gega wedi gostwng 34%.
Roedd gostyngiad hefyd yn nifer y cardiau coch am ddefnydd o iaith fygythiol neu sarhaus.
Beth felly am ymateb y clybiau?
Faint o newid sydd 'di bod yn sgil y gell gosb?
O'dd e'n galed i ddechrau achos o'dd e'n rhywbeth newydd i'r dyfarnwyr a'r chwaraewyr.
Ar ol cwpl o fisoedd, o'dd e jyst yn normal, t'mod?
Wi'n credu mae e'n peth da a fi 'di gweld pethau'n gwella.
O'dd e'n test tymor diwethaf jyst i cynghrair ni ond nawr maen nhw'n mynd lawr i'r Carmarthenshire League a'r ieuenctid.
Fi'n credu mae wedi bod yn beth da i bawb.
Annog disgyblaeth a gwella agwedd.
Dyna'r nod o gyflwyno'r newidiadau hyn a sicrhau fod y gem yn un y gall pawb ei mwynhau.