Gŵyl i ddathlu gofalwyr ifanc yn cynnig cyfle 'amhrisiadwy' i gael 'seibiant'
Mae gofalwr ifanc o Sir Fynwy yn dweud bod cwrdd â gofalwyr ifanc eraill yn brofiad "amhrisiadwy", wrth iddo edrych ymlaen at ŵyl arbennig sy’n galluogi pobl mewn sefyllfa debyg i ddod at ei gilydd.
Mae Thomas Ashwell-Lewis wedi bod yn ofalwr ifanc ers 11 mlynedd, gan helpu ei fam i ofalu am ei chwaer sydd â pharlys yr ymennydd.
Yn 17 oed ac yn hyfforddi fel gweithiwr ieuenctid, mae’n dweud ei fod yn hollbwysig i’w iechyd meddwl i brofi “seibiant” o’i gyfrifoldebau dyddiol.
Mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Ŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru yn Llanelwedd ddydd Mawrth, wrth iddi gael ei chynnal am y trydydd tro.
"Diolch i'r Ŵyl, dw i wedi gwneud ffrindiau da gyda gofalwyr ifanc eraill. Mae'r pethau sydd ymlaen yno hefyd wedi fy helpu i fagu hyder a datblygu sgiliau arwain, sydd wedi bod o gymorth yn fy rôl newydd.
"Dim ots a ydych chi eisiau ymlacio neu fod yn brysur bob dydd, mae'r Ŵyl yn llawn hwyl ac yn seibiant o'ch cyfrifoldebau, ac yn rhoi egni newydd ichi.
“Mae'n amhrisiadwy i'n hiechyd meddwl a'n lles ni,” meddai.
'Seibiant'
Eleni, bydd Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru yn croesawu 350 o ofalwyr ifanc rhwng 11 a 18 oed o bob cwr o Gymru.
Dyma nifer fwyaf o ofalwyr ifanc ers i'r digwyddiad gael ei sefydlu, yn ôl Gweinidog Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden.
Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael yn yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal hyd at ddydd Iau ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Melanie Rees, o'r elusen Credu, yw cydlynydd Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru.
Mae’n dweud fod yr ŵyl yn “gyfle unigryw i ofalwyr ifanc gael seibiant” ac i gael cydnabyddiaeth am eu “holl waith caled.”
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: "Mae gofalwyr ifanc yn gwneud gymaint i ofalu am eu teuluoedd neu ffrindiau, boed hynny'n gymorth corfforol neu emosiynol. Mae'r cyfle i gael seibiant o'u rôl ofalu yn hollbwysig.”