Newyddion S4C

'Cydiwch mewn bywyd': Neges Amy Dowden wedi iddi frwydro canser y fron

20/08/2024
Amy Dowden

Mae seren Strictly Come Dancing, Amy Dowden wedi dweud ei bod yn benderfynol o “fyw bywyd” wedi iddi dderbyn llawdriniaeth canser y fron. 

Mae’r ddawnswraig o Gaerffili yn trafod yr heriau y mae hi wedi ei wynebu ers iddi gael diagnosis o ganser y llynedd yn ei rhaglen dogfen newydd, Strictly Amy: Cancer And Me

Wedi iddi gael llawdriniaeth mastectomi yn ogystal â thriniaeth chemotherapi, cyhoeddodd y Gymraes 34 oed ym mis Chwefror fod ei bod wedi gwella – gyda disgwyl iddi ddychwelyd i Strictly Come Dancing wrth i’r gyfres dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed. 

Bellach, mae’n dweud ei bod wedi dysgu i “garu a gwerthfawrogi pob un foment yn fy mywyd.”

“Cydiwch ym mywyd. Fe wnes i gysylltu gyda menyw anhygoel o’r enw Nikki, oedd yn ei 30au, ar-lein ac fe wnaeth hi farw o ganlyniad i ganser y fron tra o’n i’n cael triniaeth y llynedd. 

“Roedd hi bob amser yn dweud ‘Cydiwch ym mywyd’ – a dyna’n union a beth y gwnaeth hi. 

“Dwi’n benderfynol o fyw bywyd fel y gwnaeth hi.”

'Helpu'

Fe gafodd Amy ddiagnosis o ganser y fron ar ôl dod o hyd i lwmp yn ei bron noson yn unig gyn iddi ddathlu ei Mis Mêl yn Ebrill 2023. 

Penderfynodd nodi ei brwydr ar ôl iddi dderbyn ymateb cadarnhaol yn dilyn ei rhaglen dogfen ddiwethaf, Strictly Amy: Crohn’s And Me, oedd yn trafod yr heriau o fyw gyda chlefyd Crohn’s ers iddi fod yn ferch ifanc. 

“Os alla’i godi ymwybyddiaeth ac mae 10 o bobl yn gwirio ei hunain ar ôl gwylio’r rhaglen ddogfen, mae ‘na bosibilrwydd y gallai achub bywyd,” meddai. 

Yn ystod y rhaglen ddogfen, mae’r ddawnswraig hefyd yn trafod y profiad o dderbyn triniaeth ar gyfer ffrwythlondeb. 

Daeth hynny wedi iddi fynd drwy'r menopos fel rhan o’i thriniaeth canser.

Fe gafodd Ms Dowden driniaeth er mwyn casglu ei hwyau fel bod modd iddi a’i gŵr, Ben Jones, geisio am fabi yn y dyfodol. 

Bydd Strictly Amy: Cancer And Me ar BBC One, ar ddydd Llun 26 Awst, am 20.00. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.