Gwaharddiad Rob Roberts o Dŷ'r Cyffredin yn dod i ben

Rob Roberts
Mae gwaharddiad Rob Roberts o Dŷ'r Cyffredin wedi dod i ben ddydd Iau wedi chwe wythnos.
Cafodd yr Aelod Seneddol dros etholaeth Delyn ei wahardd wedi honiadau o aflonyddu rhywiol yn ei erbyn.
Fe gollodd Mr Roberts chwip y blaid Geidwadol o ganlyniad i'r honiadau, ac fe fydd bellach yn aelod annibynnol o'r siambr, yn ôl Golwg360.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: David Woolfall/Tŷ'r Cyffredin