'Cryn ofid': Carreg bedd babi wedi ei dwyn o fynwent ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i garreg bedd babi gael ei dwyn ym mynwent Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi derbyn adroddiad am ddifrod troseddol i’r bedd ar ddydd Mawrth, 3 Awst.
Dywedodd yr Arolygydd Cymunedol Gareth Newman ei bod yn “drosedd ddisynnwyr”.
“Mae wedi achosi cryn ofid i deulu’r babi ac rydym yn cynnal nifer o ymholiadau er mwyn darganfod pwy sy’n gyfrifol,” meddai.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi gweld unrhyw weithgaredd amheus ym mynwent Pen-y-bont ar Ogwr neu’r ardal o’i hamgylch dros yr ychydig wythnosau diwethaf i gysylltu â ni.
“Byddwn hefyd yn annog y rhai sy’n gyfrifol i astudio eu cydwybodau a gwneud y peth iawn a chysylltu.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gan ddyfynnu rhif 2400259487.