Newyddion S4C

Pump wedi eu harestio yn yr ymchwiliad i farwolaeth Matthew Perry

15/08/2024
Matthew Perry

Mae pump o bobl wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad i farwolaeth Matthew Perry, gan gynnwys ei gynorthwyydd a dau feddyg.

Cafodd yr actor 54 oed ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yn Los Angeles, UDA ym mis Hydref y llynedd.

Dywedodd swyddogion meddygol yn Los Angeles ar y pryd fod ei farwolaeth yn ddamwain wedi ei hachosi gan “effaith dwys cetamin”.

Fe wnaeth heddlu Los Angeles lansio ymchwiliad ym mis Mai i geisio canfod pam oedd gan Perry gymaint o'r cyffur yn ei system pan fu farw.

"Roedd y diffynyddion hyn wedi cymryd mantais er mwyn gwneud elw iddyn nhw eu hunain," meddai'r twrnai Martin Estrada o'r Unol Daleithiau ddydd Iau.

"Roedden nhw'n gwybod bod yr hyn roedden nhw'n ei wneud yn berygl mawr i Perry, ond fe wnaethon nhw ei wneud beth bynnag."

Mae tri o’r diffynyddion – gan gynnwys cynorthwyydd Perry – eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiadau'n ymwneud â chyffuriau, tra bod dau arall – meddyg a dynes o’r enw “The Ketamine Queen” – wedi’u harestio ddydd Iau, yn ôl yr adran gyfiawnder.

Rhy uchel

Mae cetamin yn cael ei ddefnyddio fel triniaeth ar gyfer iselder, gorbryder a phoen.

Dywedodd pobl oedd yn agos at Perry wrth ymchwiliad y crwner ei fod yn derbyn therapi trwytho gyda chetamin (ketamine infusion therapy).

Ond derbyniodd y driniaeth ddiwethaf mwy nag wythnos cyn ei farwolaeth.

Dywedodd y crwner fod y lefel cetamin oedd yn ei gorff yn rhy uchel i fod o'r driniaeth honno.

Enwebwyd Perry am wobr Emmy am ei rôl fel Chandler Bing yn Friends, gafodd ei ddarlledu rhwng 1994 a 2004.

Ymunodd â’i gyd-sêr Jennifer Aniston, Courteney Cox, Matt LeBlanc, Lisa Kudrow a David Schwimmer ar gyfer aduniad arbennig a gynhaliwyd gyda James Corden yn 2021.

Yn ystod ei amser ar y gyfres, cafodd drafferthion iechyd gyda dibyniaeth a gorbryder. Fe ddisgrifiodd ei broblemau yn ei hunangofiant Friends, Lovers, and the Big Terrible Thing a gyhoeddwyd yn 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.