Achos Huw Edwards: Galw am wneud mwy i atal rhannu lluniau anweddus o blant ar WhatsApp
Does “dim byd yn atal” lluniau o gamdriniaeth rhywiol o blant rhag lledaenu ar WhatsApp, meddai elusen.
Mae’r Internet Watch Foundation (IWF) wedi galw ar Meta i wneud rhagor i amddiffyn plant ar y llwyfan sy’n caniatáu i bobol yrru negeseuon cudd.
Daw eu sylwadau wedi i’r darlledwr Huw Edwards bledio’n euog i dderbyn delweddau anweddus o blant yn Llys Ynadon Westminster ddiwedd mis Gorffennaf.
Roedd pedoffeil o Gymru, Alex Williams, wedi rhannu’r delweddau ag o dros WhatsApp, meddai Heddlu’r Met.
Does neb y tu allan i’r sgwrs yn gallu cael gafael ar negeseuon sy’n cael eu rhannu ar WhatsApp heb iddyn nhw gael mynediad at y ffôn.
Mae ymgyrchwyr yn gobeithio gweld newid yn y gyfraith a fyddai yn caniatau i’r heddlu gael mynediad at negeseuon cudd fel rhan o’r ymgyrch yn erbyn cam-drin plant.
Mae WhatsApp wedi dadlau nad oes ffordd hawdd o wneud hynny heb danseilio preifatrwydd y mwyafrif o ddefnyddwyr.
‘Newid’
Dywedodd Dan Sexton, prif swyddog technolegol yr IWF, fod Meta yn “dewis peidio” gweithredu er mwyn atal rhannu delweddau o’r fath.
“Sut mae Meta yn mynd i atal hyn rhag digwydd eto?” gofynnodd.
“Beth sy’n atal y delweddau hynny rhag cael eu rhannu eto ar y gwasanaeth hwnnw heddiw, yfory, a’r diwrnod wedyn?
“Ar hyn o bryd, does dim byd yn atal yr union ddelweddau a fideos o’r plant hynny rhag cael eu rhannu ar y platfform hwnnw.
“Rydyn ni’n gwybod amdano, ac maen nhw’n gwybod amdano, a bod yr heddlu’n gwybod amdano. Nid yw'r mecanwaith er mwyn mynd i’r afael ag o yno.
“Dyna beth hoffwn ei weld yn newid.”
'Preifat'
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran WhatsApp: “Mae’r gallu i amgryptio (encrypt) negeseuon yn holl bwysig wrth gadw pawb yn ddiogel ar-lein, gan gynnwys pobl ifanc.
“Rydyn ni’n gwybod nad yw pobl, gan gynnwys newyddiadurwyr, actifyddion a gwleidyddion, eisiau i ni ddarllen eu negeseuon preifat.
“Rydyn ni wedi datblygu mesurau diogelwch cadarn er mwyn atal, canfod a brwydro yn erbyn camdriniaeth wrth gynnal diogelwch ar-lein.
“Mae hyn yn cynnwys y gallu i adrodd yn uniongyrchol i WhatsApp fel y gallwn wahardd unrhyw ddefnyddiwr sy'n rhannu'r deunydd erchyll o’r fath.
“Nid oes gan apiau negeseuon eraill y mesurau diogelwch rydyn ni wedi'u datblygu. ”