Newyddion S4C

ChatGPT yn rhoi atebion i gwestiynau Saesneg defnyddwyr yn Gymraeg

15/08/2024
Cyfrifiadur

Mae ap deallusrwydd artiffisial ChatGPT wedi ateb cwestiynau oedd yn Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd defnyddwyr bod yr ap wedi bod yn newid iaith eu cwestiynau i'r Gymraeg ac ateb eu cwestiynau yn y Gymraeg hefyd.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r ap brofi nam o'r fath ar ôl i gwestiynau defnyddwyr gael eu hateb mewn cyfuniad o Sbaeneg a Saesneg.

Roedd Sarah Coward, entrepreneur o Sir Gaergrawnt wedi ei synnu wrth weld bod ateb i'w chwestiwn mewn iaith nad oedd hi'n ei hadnabod.

"Doedd gen i ddim syniad pa iaith oedd hi ac roeddwn i wedi synnu braidd," meddai wrth The Financial Times.

Ychwanegodd fod ChatGPT wedi dweud wrthi fod yr ateb "yn fwy cyfforddus yn y Gymraeg" pan ofynnodd pam bod yr ap wedi newid yr iaith.

Wrth i'r Financial Times defnyddio'r ap, dywedodd ChatGPT: “Mae’n ymddangos fy mod wedi camddeall iaith eich cwestiwn ac wedi ymateb yn Gymraeg trwy gamgymeriad. Byddaf yn fwy gofalus yn y dyfodol.”

Dywedodd y cwmni tu ôl i ChatGPT, OpenAI, fod y broblem o gyfieithu atebion i iaith wahanol yn gyfyngiad o fewn system trawsgrifio llais ChatGPT, Whisper. 

Dywedodd y cwmni fod y model weithiau’n mynd yn "ddryslyd" ac y bydd yn trawsgrifio sain mewn iaith wahanol - yn Gymraeg yn yr achos hwn. 

Mewn ymchwil gan OpenAI am ei system adnabod lleferydd ei hun, dywedodd y cwmni fod “y mwyafrif o ddata cyfieithu tybiedig i’r Gymraeg yn un sain Saesneg mewn gwirionedd” ac fe gafodd ei “gamddosbarthu fel y Gymraeg gan y system adnabod iaith [AI]”.

Beth yw ChatGPT?

Cafodd ChatGPT ei lansio ar ddiwedd 2022. Mae'n beiriant model iaith cyfrifiadurol, sydd yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gynnal sgyrsiau naturiol gyda’r defnyddiwr a chyflawni llu o dasgau ieithyddol y mae’r defnyddiwr yn ei ofyn iddo.

Gan geisio adlewyrchu ymddygiad dynol, fe all y system greu traethodau, straeon, caneuon a chod cyfrifiadurol mewn mater o eiliadau.

Mae’r peiriant yn gallu barddoni, ac er nad yw’n gwbl llwyddiannus wrth gynganeddu eto, mae’r system yn cael ei datblygu'n gyson ac yn ‘dysgu’ wrth i ddefnyddwyr rannu adborth.

Mae ChatGPT yn cefnogi nifer o ieithoedd ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi partneriaeth gyda OpenAI ym mis Mehefin i wella sut mae technoleg AI yn gweithio yn y Gymraeg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.