Dyn o Sir y Fflint yn cyfaddef ysgogi casineb hiliol ar Facebook
Mae dyn o Sir y Fflint wedi cyfaddef ysgogi casineb hiliol gyda negeseuon Facebook yn dilyn y terfysgoedd diweddar.
Roedd Daniel Kingsley, 33, o Shotton, wedi cyhoeddi negeseuon hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol rhwng 7 Awst a 11 Awst. Roedd wedi mynegi cefnogaeth i'r terfysg yn nhrefi Lloegr.
Cafodd ei gais am fechnïaeth ei wrthod, ac mae'n gael ei gadw yn y ddalfa nes iddo gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau.
Dywedodd yr erlynydd, Gareth Parry, fod Heddlu’r Gogledd wedi cael gwybod am ddwy neges Facebook ar 10 Awst. Roedd un neges dirmygus am fewnfudwyr yn awgrymu y dylid "gollwng aer o'r cychod".
Dywedodd Mr Parry: “Roedd yr heddlu’n bryderus iawn ynglŷn â natur y negeseuon a’r cyfeiriad at ardaloedd penodol lle mae yna nifer o fannau gwerthu bwyd Indiaidd ac eraill."
Ychwanegodd: “Mae’n fater difrifol sy’n debygol o arwain at ddedfryd o garchar. Mae gan y diffynnydd hanes o droseddu yn y gorffennol. Petai'n cael ei ryddhau ar fechnïaeth, mae 'na berygl y byddai’n parhau i gyflawni troseddau pellach tebyg.”
Dywedodd y barnwr rhanbarthol, Gwyn Jones, fod Kingsley, sy'n gweithio fel plastrwr, wedi son am sawl eiddo yn ardal Glannau Dyfrdwy.
Ar ran y diffynydd, gofynodd, Ceri Lewis iddo gael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd fod Kingsley wedi cael llawdriniaeth frys ar y penwythnos ar gyfer torgest (hernia) a'i fod angen cael tynnu pwythau.
“Mae’n dymuno rhoi trefn ar bethau, gwneud yn siŵr bod ei wraig, ei blant a’i rieni yn cael gofal,” meddai. Ond cafodd y cais ei wrthod.