Teyrnged teulu i ferch ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd
Mae teulu menyw a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Magwyr yng Nghasnewydd wedi ei disgrifio fel eu "hangel fach" a rhywun y byddai ei "gwên yn goleuo ystafell".
Roedd Olivia Louise Lewis, 24, o Gasnewydd, yn deithiwr mewn gwrthdrawiad un car ar yr B4245 rhwng Magwyr a Langstone fore dydd Mercher.
Dywedodd Heddlu Gwent bod gyrrwr y car, dyn 34 oed o Gasnewydd, wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Ychwanegodd y llu ei fod wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau barhau.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: “Roedd hi’n garedig, yn ofalgar ac yn ddoniol, hi oedd ein craig fach pan oedd ei hangen. Byddai’n mynd allan o’i ffordd i helpu unrhyw un mewn angen.
“Roedd Olivia yn ferch dawel, ond roedd hi’n rhan fawr o unrhyw barti, roedd wrth ei bodd yn canu ac yn dawnsio, a byddai ei gwên yn goleuo ystafell.
“Rydyn ni wedi colli ein hangel fach, ac mae gennym dwll yn ein calonnau na fydd byth yn gallu cael ei lenwi.”
Cafodd dynes arall oedd yn teithio yn y car ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau. Ond dyw ei bywyd hi ddim mewn perygl.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 2400263107.