Dirgelwch y Fedal Ddrama: Angen ‘parchu cyfrinachedd’ medd yr Eisteddfod
Dirgelwch y Fedal Ddrama: Angen ‘parchu cyfrinachedd’ medd yr Eisteddfod
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol am i mi gyhoeddi na fydd seremoni'r Fedal Ddrama yn cael ei chynnal heddiw yn ôl y disgwyl."
Y cyhoeddiad greodd ddrama o'r newydd.
Ar ôl atal cystadleuaeth Y Fedal Ddrama brynhawn ddoe heb esboniad, mi oedd na siom, rhwystredigaeth a chryn ddyfalu.
Y bore 'ma yn y gynhadledd i'r wasg, doedd dal dim atebion.
"Maen nhw 'di cael y datganiad chi 'di cael a sylwadau i'w cynorthwyo ar gyfer y dyfodol. Na, maen nhw 'di cael yr un gwybodaeth a chi a sylwadau."
Dros 24 awr ers y cyhoeddiad a does dal dim esboniad swyddogol ynglŷn â pham gafodd y gystadleuaeth ei chanslo.
Un peth sy'n sicr, mae o wedi bod yn bwnc llosg fan hyn ar y Maes ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae un o'r cystadleuwyr wedi deud ar y cyfryngau cymdeithasol fod peidio â rhoi esboniad yn dangos diffyg parch.
Ac eraill yn y maes yn cytuno.
"Mae'n ddyletswydd ar yr Eisteddfod i ryddhau mwy o wybodaeth. Mae cynulleidfa 'ma sy ddim 'di deall.
"Fyddwn ni'n cofio pethau arbennig iawn am yr Eisteddfod 'ma ond 'di lluchio cysgod mae o."
"Mae'n destun siom i feddwl bod prif gorff ddiwylliant Cymru yn amharod i rannu gwybodaeth. I drin y cyhoedd a phobl theatr a'r cystadleuwyr a'r gynulleidfa yn y Pafiliwn gyda chyn lleihad o barch mae'n gwneud i ni deimlo fel ffyliaid.
"Dim ond y cyfryw rai sy'n cael gwybod. Mae hynny'n mynd i amharu ar berthynas yr Eisteddfod â'r sector."
Yn ôl cyn-bennaeth cyfathrebu S4C mae'r modd y mae'r Eisteddfod wedi mynd ati yn hollol anghywir.
"Mae hyn yn ffôl dros ben. Mewn cyfathrebu argyfwng chi'n ceisio tawelu pethau. Mae datganiadau'r Eisteddfod 'di codi mwy o gwestiynau nag atebion.
"Maen nhw'n amlwg yn gwybod am hwn ers amser.
"Os yw hwn ydy ymateb ar ôl paratoi, be fasen nhw 'di wneud heb amser?
"Mae angen edrych ar y tôn o'r llais yr Eisteddfod 'di gyfathrebu efo'r bobl sy'n ariannu ac yn mynychu'r Eisteddfod. Rhaid bod yn dryloyw ac mae'r Eisteddfod yn dal i weld yn gweithredu yn yr hen ddyddiau pan fysa ffigwr o awdurdod yn deud rhywbeth a phawb yn derbyn o.
"Nid fel'na mae'r byd yn gweithio erbyn hyn."
Dywedodd yr Eisteddfod eu bod nhw'n ymwybodol o'r sïon ar y Maes bod dim sylw pellach ac i fanylion cystadlaethau bod yn gyfrinachol.
A fydd hynny'n ddigon i dawelu'r sibrydion? Go brin.