Chwe blynedd dan glo i gyn-swyddog Carchar y Parc am gyflenwi cyffuriau yno
Mae cyn-swyddog carchar 30 oed o’r Rhondda wedi ei dedfrydu i chwe blynedd o garchar am gyflenwi cyffuriau i Garchar y Parc.
Roedd Jodie Lee Beer o Lanhari, Rhondda Cynon Taf, yn gweithio fel swyddog carchar yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, pan gafodd ei harestio ym maes parcio’r carchar ym mis Chwefror 2022.
Daeth swyddogion o hyd i gyffuriau arni ac fe'i cyhuddwyd o gamymddwyn mewn swydd ghoeddus, a bod â chyffuriau dosbarth A a dosbarth C yn ei meddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Ymddiswyddodd dilyn y cyhuddiadau yn ei herbyn.
Cafodd ei dedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener.
Ymchwiliad
Cafodd yr ymchwiliad ei arwain gan Tarian - sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason Meadows, o Tarian: “Mae’r mwyafrif llethol o staff carchardai yn cyflawni eu dyletswyddau i’r safonau uchaf, ac ni ddylai gweithredoedd y lleiafrif sy’n ymddwyn yn anghyfreithlon amharu ar ymdrechion ac ymroddiad y rhain.
“Bydd y ddedfryd... yn rhybudd i eraill sy’n defnyddio eu safle i dorri’r gyfraith. Roedd Beer yn gweithio mewn safle o ymddiriedaeth yn ein cymuned a manteisiodd ar hyn er ei budd personol ei hun.
“Byddwn yn parhau i ymchwilio a dod â’r rhai sy’n ymwneud â gweithgareddau troseddol ac sy’n bygwth diogelwch ein carchardai o flaen eu gwell.”
Dywedodd Sarah Ingram, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd yr hyn a wnaeth Beer wrth drefnu i fynd â llawer iawn o gyffuriau rheoledig i’r carchar lle’r oedd yn gweithio yn dor-ymddiriedaeth dybryd.
“Roedd y cyffuriau wedi’u paratoi i’w cymryd i’r carchar ac roedd yn amlwg eu bod ar gyfer eu cyflenwi.
"Fel swyddog carchar roedd mewn sefyllfa o gyfrifoldeb ac roedd ei hymddygiad yn llawer is na'r safonau a ddisgwylir.
“Rydym bellach wedi dechrau camau i hawlio elw’r drosedd hon yn ôl.”