Newyddion S4C

Dod o hyd i gorff yn Afon Hafren ger Y Trallwng ar ôl chwilio

10/08/2024
Afon Hafren

Mae’r gwasanaethau brys wedi dod o hyd i gorff yn Afon Hafren ger Y Trallwng ar ôl bod yn chwilio am unigolyn yno yn ystod dydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw wedi dod o hyd i’r corff tua 20.00 nos Wener.

Mae teulu’r unigolyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

“Maen nhw yn ein meddyliau ni ar yr adeg anodd hon,” medden nhw.

Dywedodd y llu ddydd Gwener eu bod yn chwilio am berson ar goll yn yr Afon Hafren ger Y Trallwng, ar ôl derbyn adroddiadau ychydig cyn 16:40. 

Roedd Gwylwyr y Glannau a'r Gwasanaeth Tân hefyd yn cynorthwyo ymdrechion.

Roedden nhw wedi cynghori'r cyhoedd i osgoi'r ardal. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.