Y Gymraes Elinor Barker yn ennill medal arian yn y seiclo
Mae'r Gymraes Elinor Barker wedi ennill medal arian yn ras y madison yn y Gemau Olympaidd ddydd Gwener.
Mae hyn yn golygu mai Barker, 29 oed, ydy'r Gymraes gyntaf i ennill pedair medal Olympaidd.
Fe wnaeth un ymdrech olaf sicrhau 31 pwynt i Barker a Neah Evans, chwe phwynt y tu ôl i'r pencampwyr Yr Eidal.
Tîm Prydain oedd yr unig rai ar y podiwm i beidio sicrhau lap 20 pwynt, gyda'r Iseldiroedd yn cipio'r fedal efydd.
Enillodd Barker y sbrint olaf, gan ddyblu'r pwyntiau, er mwyn sicrhau'r fedal arian.
Mae Tîm Prydain bellach wedi ennill chwe medal yn y seiclo yn y Gemau Olympaidd.
Fe enillodd Barker, o Gaerdydd, ei thrydedd fedal Olympaidd wrth i Brydain hawlio efydd yn y ras cwrso tîm ddydd Mercher.
Daw hynny wedi iddi gipio medal aur yn Rio yn 2016 a medal arian yn Tokyo dair blynedd yn ôl.