Newyddion S4C

Carwyn Eckley yn ennill Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Eisteddfod Ennillydd Cadair Chair Winner 1[19].png

Carwyn Eckley sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Yn un o’r ieuengaf i ennill y Gadair, mae ei gyfres o ddeuddeg cerdd yn hynod bersonol ac yn ymateb i’r profiad o golli’i dad pan oedd yn blentyn ifanc.

Hogyn 28 oed o Ben-y-groes, Dyffryn Nantlle yw Carwyn Eckley. Mae’n byw yng Nghaerdydd efo’i bartner Siân a’u ci, Bleddyn. Mae’n gweithio fel newyddiadurwr gydag Adran Gymraeg ITV Cymru, sy’n cynhyrchu rhaglenni Y Byd ar Bedwar a’r Byd yn ei Le.

Cyflwynir y Gadair eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Cadwyn.  

Y beirniaid yw Aneirin Karadog, Huw Meirion Edwards a Dylan Foster Evans.

Bu hon yn gystadleuaeth agos iawn eleni, ond casgliad Brynmair aeth â hi yn y pen draw am awdl a oedd “yn ‘mynnu canu’n y co’ chwedl Dic Jones,” yn ôl Aneirin Karadog.

Image
Carwyn

Y feirniadaeth

Yn ei feirniadaeth yng nghyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod eleni, dywed Huw Meirion Edwards, “Ymateb y mae’r bardd i’r profiad dirdynnol o golli ei dad yn dilyn gwaeledd yn ystod haf 2002, ac yntau ar y pryd yn blentyn ifanc. 

"Mae dau ddegawd o alar ac o geisio dygymod â’r golled wedi eu distyllu i’r cerddi cynnil teimladwy hyn. Mae’r canu’n dwyllodrus o syml, bron yn foel mewn mannau, a’r dilyniant yn magu grym wrth fynd rhagddo.

“Llais tawel, ymatalgar yw llais Brynmair. Mae yma ddryswch, ing, euogrwydd, dirnad a dygymod graddol, cariad a gobaith – teyrnged, hefyd, i dad a mam a llystad – ond mae’r cyfan wedi ei fynegi yn ddiriaethol dynn. Prin fod yma gymhariaeth na throsiad, ond mae i bob gair ei bwysau.

“Mae Brynmair hefyd yn grefftwr medrus ar fesurau cerdd dafod. Does yma ddim gorchest gynganeddol sy’n tynnu sylw ati ei hun; mae’r cynganeddu yn rhyfeddol o rugl, ond byth yn slic, a’r ieithwedd yn gyfoes.”

Image
Carwyn Eckley

Dywedodd Dylan Foster Evans: “Mae ei ieithwedd yn agos-atoch, yn gyfoes-gymysg o ran dylanwadau daearyddol ac yn argyhoeddiadol. Nid yw’n amlhau ansoddeiriau na delweddau ac mae’r llinellau symlaf yn llwyddo i ysgwyd y darllenydd, megis ‘dyna weld ei enw o’ ar ddiwedd y gerdd ‘Mynwent Macpela’.

“Rydym yng nghwmni bardd arbennig yma, a bydd y cerddi hyn yn aros yn fy nghof am amser maith.”

Fe ychwanegodd Aneirin Karadog: “Mae absenoldeb y tad yn hollbresennol wedyn drwy gwrs y cerddi ysgubol hyn. 

"Mae’r golled, a’r ymgiprys â cheisio dal gafael ar atgofion, ceisio ffoi rhagddyn nhw weithiau gan eu bod yn dod â phoen galar gyda nhw, yn cael ei dwysáu drwy ganu moel y cerddi hyn a’r absenoldeb a deimlir o gerdd i gerdd hefyd yn cael ei deimlo yn yr arddull. 

Image
AK

"A dyna ddawn Brynmair yn ei amlygu ei hun. Mae’n medru canu’n uniongyrchol, yn drawiadol o ddiwastraff ond gan lwytho geiriau ag ystyron mewn llinellau sy’n ymddangosiadol ddiaddurn.

“Mae Brynmair yn llwyddo i gyfleu trymder galar, anobaith llwyr galar, dagrau galar, a’r orfodaeth i gario galar ym mhobman gyda ni ac yna hefyd geisio cysuro ein cyd-alarwyr, a hynny drwy fod yn ddethol ac yn foel ei fynegiant… 

"Mae’n llwyddo i ganfod y geiriau iawn sy’n rhoi mynegiant i ugain mlynedd o gario galar plentyn, arddegyn ac oedolyn gydag e.

“Estynnaf longyfarchiadau gwresog i Brynmair am ganu awdl a fydd yn aros yn hir yn y cof. Mae’n chwerw-felys i feddwl y byddai tad Brynmair wrth ei fodd yn cael gwybod bod ei fab am eistedd yn y Gadair ym Mhontypridd.”

Y bardd

Taniwyd diddordeb Carwyn Eckley mewn llenyddiaeth pan roddodd ei fam gopi o Harry Potter yn ei law fel bachgen ifanc iawn, cyn dechrau ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg dan arweiniad Miss Eleri Wyn Owen yn Ysgol Dyffryn Nantlle, a oedd yn "chwip o athrawes" Gymraeg. 

Astudiodd gwrs gradd mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a dysgu i gynganeddu mewn gwersi gydag Eurig Salisbury. Enillodd y Gadair Ryng-golegol yn ystod ei drydedd flwyddyn yno, cyn ennill Cadair yr Urdd yn 2020-21.

Image
Dros yr aber

Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber o Gaernarfon efo Rhys Iorwerth, Iwan Rhys a Marged Tudur, sydd wedi ennill y gyfres bedair gwaith. 

Mae’n ddiolchgar iawn i’r tri aelod arall am eu cefnogaeth, ac yn enwedig i Rhys Iorwerth sydd wedi bod yn athro barddol iddo. Tu hwnt i ysgrifennu, pêl-droed yw un o’i brif ddiddordebau - mae’n aelod o Glwb Cymric ac yn dilyn y tîm cenedlaethol yng Nghaerdydd ac oddi cartref gyda hogia' Dyffryn Nantlle. 

Mae hefyd, meddai, yn mwynhau mynd â Bleddyn am dro gyda Siân a’r teulu.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf tan ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.