Newyddion S4C

O Efrog Newydd i'r Eisteddfod: Menyw o'r Unol Daleithiau yn cael ei hurddo i'r Orsedd

O Efrog Newydd i'r Eisteddfod: Menyw o'r Unol Daleithiau yn cael ei hurddo i'r Orsedd

Mae dynes a gafodd ei magu yn Efrog Newydd wedi ei hurddo i'r Orsedd fore Gwener.

Yn wreiddiol o’r Unol Daleithiau, fe ddysgodd Megan Williams Gymraeg yn ferch ifanc.

Roedd ei mam yn wreiddiol o dde Cymru, ec fe benderfynodd gael gofal plant i’w merch drwy’r Gymraeg. 

“Pan oedd ni’n bach oedd ni ‘di cael au pair Cymraeg drosodd i byw efo ni ac oeddwn nhw’n siarad Cymraeg," meddai wrth siarad â Newyddion S4C

“Felly dwi meddwl dyna rili y ffordd ‘nes i dysgu siarad."

Mae Megan bellach wedi priodi Cymro Cymraeg o Wynedd, ac mae’r pâr yn byw yn yr Unol Daleithiau gyda’i gilydd. 

Ond maen nhw’n parhau i ddefnyddio’r iaith Cymraeg o hyd, meddai. 

“Dwi ‘di priodi Cymro felly mae hwnna’n helpu lot," meddai.

“Os ‘dyn ni’n trefeilio mae’n neis jyst gallu siarad Cymraeg a cael fatha amser preifat – mae neb arall yn gwybod am be’ dyn ni’n sôn am ‘chos ‘dyn ni’n byw yn yr Unol Daleithiau.”

Diwylliant Cymreig

Fel Prif Olygydd papur bro Gogledd America, ‘Ninnau’, mae Megan yn angerddol dros hybu iaith a diwylliant Cymreig tramor. 

“Mae pobl eisiau sgwennu hanes os maen nhw efo perthyn sy’n byw yn Gymru neu yr Unol Daleithiau," meddai.

“Mae ‘na phethau am iaith, mae newyddion o Gymru, mae cymdeithasau yng Nghymru eisiau pobl yn gwybod be’ sy’n mynd ymlaen.

“Felly maen nhw’n sgwennu pethau i cael pobol yn yr Unol Daleithiau a Canada dysgu amdan gwaith maen nhw’n ‘neud fan hyn yn Gymru.”

Megan Williams sydd hefyd bennaf yn gyfrifol am Gymdeithas Cymru-Gogledd America, ac mae’n trefnu Gwyl Cymru Gogledd America bob blwyddyn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.