Newyddion S4C

Pêl-droed: Llansawel yn dechrau ar eu hymgyrch cyntaf yn y Cymru Premier JD

Sgorio 11/08/2024
Llansawel

Mae’r tymor newydd wedi cyrraedd a bydd timau'r Cymru Premier JD yn gobeithio am ddechreuad da i'r tymor.

Cei Connah v Hwlffordd | Dydd Sul – 14:30

Roedd hi’n haf rhwystredig i Gei Connah a gollodd yn yr amser ychwanegol yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA yn erbyn NK Bravo o Slofenia.

Mae’r Nomadiaid wedi colli sawl chwaraewr dylanwadol dros yr haf, yn cynnwys eu prif sgoriwr Jordan Davies, y golwr Andy Firth a’r profiadol Michael Wilde.

Mae Hwlffordd hefyd wedi colli un o’u prif sêr wrth i Kai Whitmore adael Dôl y Bont i ymuno â Chasnewydd yn Adran Dau.

Ond mae Ben Ahmun a Kyle McCarthy wedi ymuno â’r Adar Gleision, fydd yn benderfynol o gyrraedd y Chwech Uchaf ar ôl dod mor agos y tymor diwethaf.

Mae Hwlffordd wedi ennill dwy o’u tair gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah felly bydd tîm Tony Pennock yn teimlo’n hyderus cyn eu taith i’r gogledd ddwyrain ddydd Sul.

Mae Cei Connah a Hwlffordd wedi camu ymlaen i drydedd rownd Cwpan Nathaniel MG ar ôl buddugoliaethau cyfforddus y penwythnos diwethaf (Bwcle 0-3 Cei Connah, Caerfyrddin 0-5 Hwlffordd).

Llansawel v Pen-y-bont | Dydd Sul – 17:10 (Yn fyw ar S4C)

Mae Llansawel wedi esgyn i’r uwch gynghrair ar ôl cipio pencampwriaeth Cynghrair y De 2023/24.

Bydd yna bwysau ar y blaenwr profiadol Luke Bowen i arwain y tîm eleni, er nad yw wedi chwarae’n yr uwch gynghrair ers pum mlynedd bellach.

Bydd Pen-y-bont yn siomedig o fod wedi methu a chyrraedd Ewrop ar ôl colli’n rownd derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Caernarfon y tymor diwethaf.

Dychwelyd i’r Chwech Uchaf fydd y nod cyntaf i Ben-y-bont eleni, tra bydd Llansawel yn gobeithio osgoi’r cwymp yn eu tymor cyntaf ers eu dyrchafiad.

Fe wnaeth y timau gyfarfod y penwythnos diwethaf yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG a Pen-y-bont oedd yn fuddugol, yn ennill 3-0 oddi cartref er chwarae hanner y gêm ddyn yn brin ar ôl i’r cefnwr Mael Davies gael ei hel o’r maes ar ddechrau’r ail hanner.

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.