Ysgol Dyffryn Aman: Dim camau pellach yn erbyn bachgen 15 oed
Mae'r heddlu wedi dweud na fydd camau pellach yn erbyn bachgen 15 oed a gafodd ei arestio yn dilyn adroddiadau am negeseuon bygythiol am ddigwyddiad trywanu Ysgol Dyffryn Aman.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys ddydd Iau eu bod nhw wedi rhyddhau’r bachgen “heb unrhyw gamau pellach yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu”.
Roedd wedi ei arestio yn oriau mân 25 Ebrill yn dilyn adroddiadau am negeseuon bygythiol ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â’r digwyddiad.
Roedd merch 14 oed wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ym mis Mai wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri unigolyn yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gâr ar 24 Ebrill.
Cafodd dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, yn ogystal â disgybl eu hanafu yn y digwyddiad.
Yn ystod y gwrandawiad fe ymddangosodd y ferch, a oedd yn 13 oed adeg y digwyddiad, dros gyswllt fideo i gadarnhau ei henw.
Fe fydd yn ymddangos o flaen y llys y tro nesaf ar 12 Awst.
Mae wedi bod yn cael ei chadw mewn uned ddiogel i bobl ifanc,
Fe wnaeth y Barnwr Geraint Walters osod dyddiad arfaethedig o 30 Medi ar gyfer dechrau'r achos llys.
Does dim modd enwi'r ferch o achos ei hoedran.