Arweinydd y Ceidwadwyr dan y lach am 'bol piniwn' am ddyfodol y Senedd
Mae nifer o Geidwadwyr Cymreig amlwg wedi mynegi syndod wedi i arweinydd y blaid yng Nghymru gynnal "pol piniwn" anffurfiol am ddyfodol datganoli mewn sioe amaethyddol.
Bu Andrew RT Davies yn gwahodd pobl yn sioe Bro Morgannwg i roi peli mewn blwch "ie" neu "na" mewn ymateb i'r cwestiwn "a ddylid dileu'r Senedd?".
Dywedodd ar x:"Mae wastad yn bwysig cael gwybod barn pobl. Felly rydan ni'n cynnal pol (anwyddonol). Dewch draw i stondin y Ceidwadwyr i ddweud eich dweud!"
Postiodd aelod Ceidwadol arall o'r Senedd, Joel James, lun yn ddiweddarach o'r sioe oedd yn ymddangos fel petai'n dangos bod y mwyafrif o'r sawl bleidleisiodd o blaid dileu'r Senedd ym Mae Caerdydd.
Ond dywedodd Paul Davies, aelod Ceidwadol Preseli Penfro, a chyn-arweinydd y blaid yn y Senedd ar x: "Mae'r Blaid Geidwadol yn glir - dyw e ddim yn bolisi'r blaid i ddileu'r Senedd, felly ddim yn sicr pam mae'r cwestiwn yma hyd yn oed yn cael ei ofyn."
Cafodd neges Paul Davies gefnogaeth gan gyn-arweinydd y blaid yng Nghymru, yr Arglwydd Nick Bourne, wnaeth bwysleisio nad oedd dileu'r Senedd erioed wedi bod yn bolisi gan y Ceidwadwyr, gan ychwanegu:"Pam gofyn y cwestiwn?"
A dywedodd Gareth Davies, aelod Ceidwadol Dyffryn Clwyd: "Rydw i wedi dweud o'r blaen, petawn i eisiau dileu'r Senedd, fyddwn i erioed wedi trafferthu sefyll am etholiad ar ei gyfer.
"Mae fy nheulu yn yr etholaeth ac yng ngogledd-ddwyrain Cymru ers cannoedd o flynyddoedd, a mae'n anrhydedd i gynrychioli fy nghartref yn Senedd Cymru."
Aelod arall i ymateb oedd llefarydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ar drafnidiaeth, Natasha Ashgar, ddywedodd: "Dyw e ddim yn bolisi gennym i ddiddymu'r Senedd, a rydw i'n cefnogi datganoli'n llwyr. Mae'n dod a phenderfyniadau yn nes at y bobl, ac heb amheuaeth mae hynny'n beth da."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael cais i ymateb.