Newyddion S4C

Rhybuddion am 'gynnydd dramatig' mewn hunluniau ar reilffyrdd

07/07/2021

Rhybuddion am 'gynnydd dramatig' mewn hunluniau ar reilffyrdd

Mae ‘cynnydd dramatig’ wedi bod yn y nifer o hunluniau sydd wedi digwydd ar reilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ôl awdurdodau trafnidiaeth.

Maent yn rhybuddio pobl am y cynnydd mewn marwolaethau ar gyfryngau cymdeithasol fel rhan o ymgyrch newydd.

Daw’r rhybudd wrth i ffigyrau newydd ddangos fod 433 o ddigwyddiadau difrifol wedi’u cofnodi ar groesfannau rheilffordd ers dechrau’r pandemig.

Dywed y Bartneriaeth Rheilffyrdd fod y defnydd o hashnodau fel #railphotography a #railwayshoot wedi cynyddu’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd, gyda mwy na 1 miliwn yn ei ddefnyddio ar apiau fel Instagram, Snapchat a TikTok.

Mae’r bartneriaeth, sy’n gyfuniad o Drafnidiaeth Cymru, Network Rail a Thrafnidiaeth Prydain wedi lansio ymgyrch ddiogelwch newydd i godi ymwybyddiaeth o beryglon camddefnyddio croesfannau rheilffyrdd.

Fe fydd ymgyrch “Ar Ba Gost?” yn gobeithio lleihau’r cynnydd cyn gwyliau haf yr ysgol.

Mae’r heddlu’n pwysleisio fod effeithiau gweithgareddau o’r fath yn gallu bod yn sylweddol.

Image
Mam a phlentyn
Lluniau camera cylch cyfyng o fam a phlentyn yn dringo giat wrth ymyl croesfan reilffordd.

‘Achub bywydau’

Fe fydd ffilm yn cael ei rhannu ar draws gwefannau megis TikTok, Instagram a Spotify dros yr haf fel rhan o’r ymgyrch.

Mae’r ffilm yn dangos effeithiau mentro wrth groesfannau rheilffordd.

Mae effeithiau camymddwyn wrth groesfannau rheilffyrdd yn weladwy iawn i nifer sy’n gweithio ar reng flaen y gwasanaeth drafnidiaeth yng Nghymru.

Dywedodd Jody Donnelly, gyrrwr trên i Drafnidiaeth Cymru: “Dros y blynyddoedd, rwyf i a llawer o’m cydweithwyr ― boed yn weithwyr yn yr orsaf, yn yrwyr neu’n docynwyr ― wedi gorfod delio â channoedd o ddigwyddiadau brawychus ac weithiau trasig wrth groesfannau rheilffordd.

“Does gen i ddim amheuaeth na fydd ein hymgyrch yn helpu i achub bywydau’r haf hwn ― a chyda hyn, rwy’n gobeithio y bydd yn caniatáu i mi a’m tîm orffwys ychydig yn haws… Gan wybod bod ein cwsmeriaid, er gwaethaf trendiau cynyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, yn cael eu haddysgu am beryglon go iawn croesfannau rheilffordd”.

Dywedodd Richard Powell, Arolygydd o Heddlu Trafnidiaeth Prydain: “Mae chwarae o gwmpas wrth groesfannau rheilffordd ― gan gynnwys loetran i dynnu lluniau ― yn anghyfreithlon ac yn beryglus dros ben. Gallech gael eich cludo i’r llys ac wynebu dirwy o £1,000.

“Does braidd dim sŵn gan drenau wrth iddyn nhw agosáu, a chyda’ch meddwl ar rywbeth arall, fyddwch chi ddim yn sylwi nes ei bod yn rhy hwyr. Cymerwch ofal o amgylch croesfannau rheilffordd. Does yr un ffotograff yn werth y risg i chi na’r canlyniadau i’ch teulu neu unrhyw un gerllaw”.

Ar drothwy gwyliau’r haf, mae galwad glir i gymryd gofal wrth groesfannau ac i ymddwyn mewn modd diogel.

Fideo: Ffilm Ymgyrch "Ar Ba Gost?"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.