Newyddion S4C

‘Siom’: Neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen eleni

Jerry

Roedd “siom” ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddydd Mawrth pan gyhoeddwyd nad oedd neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen.

Dyma’r tro cyntaf ers 2017 ac Eisteddfod Genedlaethol Môn i neb fod yn deilwng o’r wobr, a dim ond y trydydd tro y ganrif hon.

Dim ond pum ymgais ar gyfer y wobr am nofel dros 50,000 o eiriau oedd wedi dod i law a’r un ohonyn nhw yn barod i’w cyhoeddi, medd y beirniaid. 

Y beirniaid oedd Jerry Hunter, Catrin Beard a Marlyn Samuel a Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 oedd y wobr.

Jerry Hunter oedd â’r dasg o gyhoeddi nad oedd modd gwobrwyo eleni.

Image
Daniel Owen

“Gwn fod atal y wobr yn destun siom i ddarllenwyr ffuglen Gymraeg, ond peidied neb â digalonni,” meddai.

“Ymddengys fod y gystadleuaeth hon yn denu darpar nofelwyr yn hytrach na rhai profiadol yn aml.

“Er bod enillwyr y gorffennol wedi llwyddo i greu nofel gyntaf lwyddiannus, mae’n afrealistig disgwyl i hynny ddigwydd bob blwyddyn.

“Yn hytrach na chwyno nad yw’r gystadleuaeth hon wedi esgor ar nofel newydd eleni, ewch yn syth at un o’r mannau hynny ar faes yr Eisteddfod sy’n gwerthu llyfrau - neu at eich siop lyfrau lleol - a phrynu nofel Gymraeg nad ydych wedi’i darllen. Mae digon o ddewis ac mae’r dewis hwnnw’n destun diolch, pleser a balchder.”

‘Disgwyliadau’n uchel’

Gallai’r penderfyniad fod yn ergyd i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru gyda’r Daniel Owen ymysg y gwerthwyr gorau bob blwyddyn.

Dywedodd y Cyngor Llyfrau bod colli cyfrolau'r Eisteddfod – gan gynnwys y Daniel Owen - wedi costio tua £100,000 i’r diwydiant llyfrau pan fu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod yn 2020.

Er yn siomedig, roedd gan Catrin Beard air o gefnogaeth i’r rheini a ymgeisiodd eleni. 

 “Os yw ein prif ŵyl lenyddol am anrhydeddu nofel gyda gwobr ariannol hael a chlod cynulleidfa’r pafiliwn, mae’n deg bod y disgwyliadau’n uchel, a gyda chynifer o nofelau graenus yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn, maen nhw’n uwch fyth,” meddai.

“Nid ar chwarae bach mae ysgrifennu nofel, ac fel un sydd â sawl ‘Pennod Un’ yn y drôr, allaf i wneud dim ond edmygu dyfalbarhad a dycnwch y rheiny sy’n dwyn y maen i’r wal. 

“Ond mae mwy i ysgrifennu nofel na’r drafft cyntaf, a gyda’r disgwyliad y bydd cyfrol fuddugol ‘Y Daniel’ yn y siopau o fewn ychydig fisoedd yn unig i dderbyn y feirniadaeth, ein gobaith fel beirniaid oedd derbyn nofelau a oedd yn agos at fod yn ‘barod i fynd’.

“Siomedig, felly, oedd mai egin nofelau a ddaeth i law. Oes, mae yma addewid, gwreiddioldeb, difyrrwch ac enghreifftiau o ysgrifennu godidog, ond does dim un o’r cyfrolau yn agos at fod yn barod i’w chyhoeddi.

“Yr hyn sydd ei angen nawr yw amynedd – os aiff yr awduron a gyflwynodd eu gwaith ati i fireinio a gweithio ar eu drafftiau, mae gobaith gwirioneddol y bydd rhai, os nad pob un, yn barod i’w cyhoeddi ac yn nofelau teilwng maes o law. Edrychaf ymlaen at eu darllen eto bryd hynny.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.