Newyddion S4C

Ffrindiau o'r Ariannin wedi 'gwireddu breuddwyd' drwy ymweld â Chymru

07/08/2024

Ffrindiau o'r Ariannin wedi 'gwireddu breuddwyd' drwy ymweld â Chymru

Mae ffrindiau o’r Wladfa ym Mhatagonia wedi llwyddo i “wireddu breuddwyd” drwy ymweld â Chymru am y tro cyntaf yn eu bywydau. 

Yn wreiddiol o’r Gaiman yn yr Ariannin, dywedodd Meleri Pinciroli, Kiara Ace a Santiago Pires wrth Newyddion S4C ym mis Ebrill taw eu “breuddwyd gorau” fyddai ymweld â Chymru. 

Gyda chymorth un o’u hathrawon yng Ngholeg Camwy, roedden nhw wedi dechrau apêl i godi arian ym mis Mawrth fel rhan o’u hymdrechion i deithio i Gymru. 

Bellach maen nhw wedi treulio saith wythnos yn y wlad – ac maen nhw’n benderfynol o ddychwelyd. 

“’Dyn ni gyd yn gobeithio dod 'nôl,” meddai Santiago Pires. 

“’Dyn ni ddim wedi gadael eto ond ‘dan ni eisiau dod nôl,” ychwanegodd Kiara Ace wrth siarad â Newyddion S4C.

'Anhygoel'

Mae’r tri ffrind, sydd wedi bod yn dysgu’r Gymraeg ers iddyn nhw fod yn blant ifanc, wedi treulio’r diwrnodau diwethaf yn gwirfoddoli ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd ym mhabell Cymdeithas Cymru-Ariannin. 

Fe lwyddodd y tri godi dros £2,500 drwy hybu ymwybyddiaeth a gwirfoddoli yn eu cymunedau yn lleol, ac fe wnaethon nhw wireddu breuddwyd pan gyrhaeddon nhw’r wlad ar 23 Mehefin. 

Dywedodd Kiara Ace: “Mae’n teimlo’n anhygoel achos ‘dan ni wedi weithio’n galed a ‘dan ni wedi aros i dod fan ‘ma ers blynyddoedd. 

“’Dyn ni’n hapus iawn bo’ ni’n gallu bod fan ‘ma.”

'Cyffrous iawn'

O Gaerdydd i Gaernarfon ac Aberystwyth i Aberteifi, mae’r ffrindiau wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn teithio ar hyd a lled Cymru. 

Gyda’r tri ohonyn nhw yn hoff o gerddoriaeth Gymraeg, maen nhw hefyd wedi mynd i wyliau cerddorol Tafwyl a Sesiwn Fawr Dolgellau. 

Ac mae’r ffrindiau yn awyddus i ymuno â phobl ifanc Cymru unwaith yn rhagor cyn iddyn nhw ddychwelyd adref ddiwedd yr wythnos.

“Ni ‘di ‘neud llawer o bethau ond ‘dyn ni’n edrych ymlaen i Maes B,” medd Kiara. 

“’Dan ni’n gyffrous iawn,” ychwanegodd Santiago. “’Dan ni’n hoffi llawer iawn o’r bandiau sy’n canu – ‘dyn ni’n hoffi Gwilym a Fleur de Lys.”

“Yws Gwynedd,” ychwanegodd Meleri. “A Bwncath,” meddai Kiara.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.