Vaughan Gething yn ysgrifennu at y Brenin i ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru
Mae Vaughan Gething wedi ysgrifennu at y Brenin i ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru.
Bydd y Senedd yn cynnal pleidlais i ddewis y Prif Weinidog newydd ddydd Mawrth.
Mae disgwyl i arweinydd newydd y Blaid Lafur, Eluned Morgan gael ei hethol i’r swydd.
Dywedodd Vaughan Gething: “Rwyf heddiw wedi ysgrifennu at Ei Fawrhydi Y Brenin i ymddiswyddo fel Prif Weinidog.
“Bu'n anrhydedd gwasanaethu pobl Cymru. Ein cryfder mwyaf fel cenedl yw ein daioni, haelioni a'n hysbryd creadigol.
“Diolch o galon.”
'Anrhydedd'
Cyhoeddodd Vaughan Gething y byddai yn ymddiswyddo bythefnos yn ôl, pedwar mis yn unig ers dechrau'r swydd.
Ef fydd y Prif Weinidog a fydd wedi gwasanaethu am y cynod byrraf yn y swydd, sef 137 diwrnod o'i gymharu â 273 diwrnod Alun Michael.
Y Farwnes Morgan, 57 oedd yr unig ymgeisydd i’w olynu yn arweinydd Llafur Cymru.
Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd y Farwnes Morgan ei bod hi’n “wirioneddol yn anrhydedd” i fod y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru ac i gael ei henwebu i fod yn Brif Weinidog.
Meddai: “Rydw i eisiau sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle a’r gallu i gyflawni eu potensial.
“Roedd Huw Irranca-Davies a minnau’n sefyll yn fel partneriaeth falch, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cefnogaeth aruthrol Aelodau Seneddol Llafur Cymru a chefnogaeth o bob rhan o Gymru a’r mudiad Llafur ehangach."
