‘Ymateb gwych’: Lle i Fwslimiaid weddïo ar y Maes am y tro cyntaf
‘Ymateb gwych’: Lle i Fwslimiaid weddïo ar y Maes am y tro cyntaf
Mae ‘Mosg’ ar y Maes am y tro cyntaf eleni ac mae un sy’n gweithio ar y stondin yn dweud bod yr ymateb wedi bod yn wych gan Eisteddfotwyr.
Yn sgil y terfysg gan brotestwyr dros yr wythnos diwethaf mae’n bwysig i’r gymuned Foslemaidd bod y Cymry Cymraeg yn gefnogol iddyn nhw, meddai Beatrice Young.
Yn Fwslim sy'n byw yng Nghaerdydd, bydd Beatrice yn gweithio ar y stondin yn ystod yr wythnos.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Hwn di'r tro cynta i ni fod yma, blwyddyn yma, ma'n rili exciting.
"Ma'n bwysig i ni bod ni'n dangos bod 'na gynrychiolaeth o Fwslimiaid yn yr Eisteddfod gan bo' ni yn rhan o'r gymuned yma yng Nghymru ac yn aml 'dan ni ddim yn gweld ein hunain yn y llefydd yma.”
Mae Beatrice yn poeni wedi'r digwyddiadau diweddar yn ymwneud â'r asgell dde eithafol.
Ers wythnos mae protestiadau treisgar wedi eu cynnal ar draws Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda mwy na 370 o bobl wedi eu harestio. Mae rhai o'r protestwyr wedi bod yn gweiddi o blaid yr ymgyrchydd asgell dde eithafol Tommy Robinson, tra bod eraill yn gweiddi sarhad am Islam.
Dywedodd Beatrice: "Dwi'n meddwl bo' ni gyd yn pryderu. Ma'n rili anodd peidio teimlo yn saff yng ngwlad dy hun yn enwedig, 'dan ni gyd wedi bod yn byw yma trwy gydol bywyda ni, 'dan ni'n rhan o'r cymuneda, 'dan ni'n siarad yr iaith.
"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig i ni bod ni'n teimlo fel bo' ni'n cael ein gwarchod gan Gymry Cymraeg a bo' nhw'n gweld ni'n rhan o'r gymuned gymaint â 'dan ni'n gweld nhw yn rhan o'r gymuned."
‘Positif iawn’
Dywedodd Beatrice Young y bydd y Mosg ar y Maes yn cynnig lle i Fwslimiaid deimlo yn gartrefol ar y Maes ond hefyd yn gyfle i eraill ddod i nabod y crefydd a’i dilynwyr yn well.
"Ma' plant a'u rhieni nhw angen llefydd i weddïo so oedd o'n bwysig i ni bo' ni'n dangos bod 'na rwla iddyn nhw ddod,” meddai.
“Ond yn fwy na hynna, mae o hefyd yn ffordd wych i ddod â phobl i fewn, pobl o Gymru, sydd efo diddordeb yn y ffydd, efo cwestiyna falla a bo' nhw'n cael ateb y cwestiyna yna.
"Ma genna ni arddangosfa ar hanes Islam yng Nghymru ac arddangosfa hefyd yn dangos rhai o'r pethau am y ffydd ei hun, yn y cefn, ma' genna ni fan gweddïo so fyddan ni'n casglu yma bob diwrnod er mwyn gwneud un o'r pump gweddi.”
Mae'r ymateb i'r stondin wedi bod yn gadarnhaol iawn yn ôl Beatrice.
"Ma'r ymateb 'di bod yn wych, 'dan ni di cael dipyn o bobl yn dod mewn yn deud faint o bwysig ydi o bod ni yma a faint o bwysig ydi o bod nhw'n gweld bod ni yma hefyd," meddai.
"Dan ni wedi cael lot o deuluoedd yn dod i fewn, lot o blant, ond hefyd lot o Fwslimiaid yn dod fewn i weddïo oedd ddim yn gwybod bod rwbath fel 'ma ar gael mewn lle fel hyn, ond ia, positif iawn."