Iran i ymosod ar Israel 'o fewn y 24 i 48 awr nesaf'

05/08/2024
Hezbollah

Fe allai Iran ac Hezbollah ymosod ar Israel "o fewn y 24 i 48 awr nesaf" medd un adroddiad. 

Dyw'r adroddiad, sydd wedi eu cyhoeddi ar wefan newyddion Axios ddim wedi eu cadarnhau. 

Ond mae'r wefan yn dweud bod Ysgrifennydd Cartref yr Unol Daleithiau, Antony Blinken wedi dweud wrth aelodau'r G7 y gallai ymosodiad ddigwydd mor gynnar a dydd Llun.

Gobaith America yw ceisio perswadio Iran a Hezbollah i gyfyngu ar eu hymosodiadau ac atal unrhyw ymateb gan Israel.

Mae Blinken wedi gofyn i'r gweinidogion tramor eraill ymuno â'r ymgyrch honno trwy roi pwysau diplomyddol ar y ddwy wlad ac Hezbollah medd Axios. 

'Neb ar eu hennill'

Fe gyhoeddodd y G7 ddatganiad dydd Llun yn mynegi “pryder dwfn ynghylch y tensiwn yn y Dwyrain Canol”. Roeddent yn galw ar y ddwy ochr i atal unrhyw ymladd gan fynnu “na fydd unrhyw wlad na chenedl ar ei hennill o gynnydd pellach”.

Yn syth ar ôl llofruddiaeth arweinydd Hamas Ismail Haniyeh ar 31 Gorffennaf fe anfonodd yr Unol Daleithiau luoedd milwrol ychwanegol i'r Dwyrain Canol am fod y wlad yn rhagweld ymosodiadau.

Maen nhw'n mynnu bod cynyddu eu presenoldeb yn weithred “amddiffynnol”.

Fe gyhoeddodd Gweinidog Amddiffyn Israel, Yoav Gallant, rybudd, gan ddweud: “Os ydyn nhw’n meiddio ymosod arnom ni, fe fyddan nhw’n talu pris trwm.”

Llun: Ibrahim Amro / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.