Newyddion S4C

Lloyd Macey yn 'diolch i'r Eisteddfod' am ei brofiad ar X Factor

Lloyd Macey yn 'diolch i'r Eisteddfod' am ei brofiad ar X Factor

Mae Lloyd Macey wedi dweud bod ganddo 'ddiolch i'r Gymraeg a'r Eisteddfod' am ei baratoi ar gyfer cystadleuaeth yr X Factor yn 2017.

Fe orffennodd y dyn 30 oed o Ynyshir  yn bedwerydd yn y gystadleuaeth ar sianel ITV.

Fyddai hynny ddim wedi bod yn bosib heb gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn ifanc, meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae rhaid fi diolch i Gymru ac i 'Steddfod achos o'n i'n lwcus, o'n i'n arfer â gweld beirniaid yn ishte fan 'na.

"I fod yn onest mae beirniaid 'Steddfod yn anoddach i blesio dwi'n meddwl 'na beirniaid X Factor falle.

"Dwi'n meddwl fod y profiad o fod yn ifanc, yn cystadlu, yn yr Eisteddfodau, o'n i'n barod am rywbeth fel yr X Factor, a'r ffaith bod fi 'di cael cyfle 
i bobl i glywed beth o'n i'n gallu 'neud ond hefyd i dderbyn y feirniadaeth.

"Dwi'n meddwl weithiau mae'n gallu bod yn anodd os maen nhw'n gweud 'o'dd hwn ddim cystal ac yn y blaen, ond mae'r 'Steddfod yn paratoi ti, felly 
mae 'niolch i 'Steddfod, i'r holl profiadau yng Nghymru y'n ni'n cael fel plant ifanc ac oedolion ifanc.

" 'Swn i siŵr o fod ddim wedi mynd amdani a 'di mentro am X Factor sai'n credu oni bai bod fi 'di cael yr holl brofiadau yma yng Nghymru."

Image
Lloyd Mace yn canu ar X Factor yn 2017
Lloyd Macey yn canu ar X Factor yn 2017. Llun: Wochit/ITV

Yn dilyn ei lwyddiant bydd Lloyd yn beirniadu cystadlaethau yn yr Eisteddfod eleni ac mae'n edrych ymlaen at y profiad.

Bydd yn beirniadu cystadleuaeth corau'r dysgwyr ac ambell i gystadleuaeth arall.

"Dwi wir yn edrych ymlaen at y profiad achos mae'n swreal i feddwl bod y rhod 'di troi ac yn hytrach 'na cystadlu fi'n beirniadu.

"Fi mor, mor ddiolchgar i'r Eisteddfod am roi'r cyfle i fi i allu 'neud hynny a fi'n gwybod sut bydd y plant yn teimlo, y cystadleuwyr yn teimlo ond i fi wastad yn gweud mae nerfau yn beth da.

"Mae rhaid i chi defnyddio fe fel rhyw fath o adrenalin a bod e'n peth da bod gyda chi'r nerfau achos maen nhw'n helpu yn y pen draw."

'Platfform i bobl'

Gobaith Lloyd yw bydd cynnal yr Eisteddfod yn y cymoedd yn rhoi llwyfan i bobl leol ymfalchïo yn y Gymraeg.

Doedd na ddim digwyddiad fel hyn yn yr ardal pan oedd yn ifanc meddai ac mae eisiau i drigolion lleol cymryd mantais o gynnal y brifwyl yn y dref.

"Gobeithio fydd Eisteddfod ym Mhontypridd  yn sicrhau bod pobl yn crwydro'r maes ac efallai yn penderfynu 'chi gwybod beth fi moyn i plant ni fod yn rhan o hwn yn y dyfodol', pan maen nhw'n cael plant neu os gyda nhw plant ifanc a bod nhw'n penderfynu, 'ie addysg Gymraeg y'n ni mynd i ddewis ar gyfer ein plant ni.'

"Pan o'n i'n ifanc o'n i'n gweld 'odd 'da fi ffrindiau ysgol, a diolch byth o'n ni gyda ffrindiau ysgol yn siarad y Gymraeg ac yn defnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r 'stafell ddosbarth, ond hefyd oedd 'da fi'n ffrindiau oedd ddim yn siarad Cymraeg. Beth o'n i'n falch ohoni, o'n i'n gallu helpu nhw gyda'u Cymraeg 
nhw pan o'n nhw'n 'neud Lefel A neu TGAU.

"Ti'n dechrau gweld nawr erbyn hyn mae 'da ti rhieni sy'n siarad y Gymraeg gyda'u plant nhw a fi'n gobeithio dyna beth fydd 'Steddfod 
yn 'neud, fydd pobl yn dod, a fi 'di gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gweld pobl yn gweud 'Beth yw 'Steddfod?'

"Bydd e'n rhoi platfform i bobl eraill hefyd i ymfalchïo yn yr iaith ac ym mhopeth mae 'Steddfod yn cynnig i bobl."

Image
Lloyd Macey yn seremoni Gorsedd y Beirdd
Cafodd Lloyd Macey ei dderbyn i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019. Llun: Ffotonant

Gyda bwrlwm y brifwyl wedi cyrraedd y dref, mae Lloyd eisiau i bobl fwynhau’r wythnos.

"I bawb sy'n dod: Mwynhewch Pontypridd achos mae'n ardal hyfryd a dwi'n gwybod bod nhw 'di 'neud cymaint o waith a mae'r murlun newydd sydd yna, hyd yn oed os 'dach chi'n mynd i weld y murlun, mae e'n werth gweld achos mae'n bendigedig.

"Ond fi mor gyffrous, fi ffaeli credu bod e'n dod i Rondda Cynon Taf a doedd dim byd fel hyn pan o'n i'n ifanc ac erbyn hyn mae e yma a mae mynd i fod yn wythnos hynod o lwyddiannus fi'n siŵr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.