Newyddion S4C

Creu murlun arbenning ym Mhontypridd i ddathlu'r Eisteddfod Genedlaethol

Murlun Eisteddfod

Gyda diwrnodau i fynd tan i filoedd o ymwelwyr gyrraedd maes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae murlun arbennig wedi’i greu yng nghanol Pontypridd. 

Cafodd yr artist Tom Llewelyn o'r dref ei gomisiynu gan yr Eisteddfod i greu gwaith i ddathlu’r achlysur. 

Ysbrydoliaeth yr artist, sy’n cael ei adnabod dan yr enw Tee2Sugars, oedd pedair cerdd a gafodd eu comisiynu gan yr Eisteddfod, ac sy’n seiliedig ar yr anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau. 

Mae’r murlun yn rhan o brosiect a gafodd ei greu gan yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Yn dilyn trafodaethau gyda phwyllgorau lleol, fe aeth tîm o bobl ati i greu celf ar draws yr ardal i ddathlu’r anthem. 

Rhondda Cynon Taf oedd cartref cyfansoddwyr yr anthem, y tad a’r mab, Evan James a James James. Mae’r murlun ar wal eu hen gartref ar Stryd y Felin, ym Mhontypridd.

'Peintio ar lwyfan'

Mae seinwedd wedi ei chreu fel rhan o’r murlun, a grëwyd gan Tom Llewelyn wrth gynnal sgyrsiau gyda phobl o ddalgylch yr Eisteddfod. Fe blethodd detholiadau o’r sgyrsiau hyn gyda recordiadau amrywiol o’r anthem i ffurfio’r seinwedd arbennig. 

Ar y seinwedd, clywir llais Geraint James, sydd o deulu cyfansoddwyr yr anthem, yn egluro ystyr y geiriau.

Er mwyn clywed y seinwedd, bydd pobl yn medru clicio ar gôd QR sydd ar wal y murlun i wrando ar eu ffonau symudol.

Dywedodd Tom bod y cyfle i greu’r gelf fel “peintio ar lwyfan o flaen miloedd a miloedd o bobl”, ac wrth iddo weithio, roedd sawl person yn canu cyrn eu ceir, ac yn  rhannu lluniau a chlipiau ar gyfryngau cymdeithasol. 

Am 19:30 ar nos Sadwrn 10 Awst, bydd yna gyfle i glywed y seinwedd unwaith eto yn y Pafiliwn, gyda pherfformiad o gomisiwn cerddorol newydd, ‘Gwlad’ gan Eilir Owen Griffiths, yn dilyn. 

Mae geiriau ‘Gwlad’ yn gyfuniad o gerddi a ysgrifennwyd gan y beirdd lleol, Mari George, Christine James, Delwyn Siôn ac Aneurin Karadog. Bydd y darn yn cael ei berfformio gan ensemble lleisiol o gyn-enillwyr yr Eisteddfod, yn ogystal â cherddorfa siambr o gerddorion o Sinffonia Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Llun: Tee2Sugars

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.