Newyddion S4C

Arestio dros 100 o bobl yn Llundain mewn protest dros farwolaethau Southport

01/08/2024
Whitehall

Mae dros 100 o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn protest wedi marwolaethau tair merch ifanc yn Southport ddechrau’r wythnos, meddai Heddlu’r Met. 

Cafodd Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed, ac Alice Dasilva Aguiar, naw oed, eu trywanu tra roedden nhw mewn gweithdy dawns yn y dref yng Nglannau Mersi ddydd Llun.

Nos Fercher, fe gasglodd pobl at ei gilydd yng nghanol Llundain gan gynnal protest yn Whitehall, ger Downing Street. 

Dywedodd Heddlu’r Met eu bod wedi arestio dros 100 o bobl ar gyhuddiadau o anhrefn treisgar, ymosod ar weithwyr y gwasanaethau brys, a thorri amodau mechnïaeth. 

Roedd swyddogion o’r llu yn bresennol er mwyn “sicrhau bod yr anhrefn yn cael ei reoli,” meddai Heddlu’r Met mewn datganiad, gan ychwanegu fod rhai o’u swyddogion wedi “dioddef mân anafiadau".

Taflodd protestwyr fflêrs tuag at giatiau Downing Street, yn ogystal â thuag at gerflun y cyn Prif Weinidog Winston Churchill. 

Roedd rhai hefyd yn gweiddi “Stopiwch y cychod” ac “Achubwch ein plant.” 

Fe wnaeth eraill daflu poteli a chaniau tuag at swyddogion yr heddlu.

Anhrefn

Mae sawl heddwas hefyd wedi cael eu hanafu yn dilyn achos arall o anhrefn yn Hartlepool yn Sir Durham, meddai Heddlu Cleveland. 

Cafodd wyth o bobl eu harestio wedi i boteli gwydr a wyau gael eu taflu at yr heddlu gan brotestwyr. Cafodd car hefyd ei roi ar dân. 

Mae’r llu wedi dweud eu bod yn disgwyl arestio rhagor o bobl yn ystod y diwrnodau nesaf, a’u bod yn credu bod y protestiadau ynghlwm a digwyddiad Southport. 

Cyhuddo

Mae bachgen 17 oed bellach wedi’i gyhuddo o lofruddio tair merch ifanc yn Southport ddydd Llun.

Fe wnaeth wyth o blant eraill hefyd ddioddef anafiadau ac mae pump ohonynt yn parhau mewn cyflwr difrifol. 

Mae dau oedolyn hefyd wedi'u hanafu'n ddifrifol.

Ni ellir enwi’r bachgen 17 oed am resymau cyfreithiol gan ei fod o dan 18 oed.

Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa gan ymddangos yn Llys Ynadon Lerpwl yn ddiweddarach dydd Iau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.